Beth yw 'eithafwr'?
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 50 mlynedd ers i Gwm Tryweryn gael ei foddi er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl. Roedd yna brotestio tanbaid yn erbyn mesur y Llywodraeth gyda ralïau a gorymdeithiau yn cael eu cynnal. Aeth tri Chymro gam ymhellach na hynny.
Mi gafodd MAC (Mudiad Amddiffyn Cymru) ei sefydlu gan Owain Williams, John Albert Jones ac Emyr Llywelyn Jones. Mi wnaethon nhw fomio trosglwyddydd ar argae Tryweryn ym mis Chwefror 1963. Newidiodd y weithred honno hanes protestio yng Nghymru.
Roedd y tri yn cael eu hystyried yn 'eithafwyr gwleidyddol' gan rai, ond beth yw 'eithafwr', a phwy sydd â'r hawl i labelu rhywun yn eithafwr?
Ar ddechrau'r 1970au fe ysgrifennodd Ned Thomas y gyfrol 'The Welsh Extremist'. Ynddi mae'n trafod sefyllfa'r iaith, y pwysau oedd ar gymunedau Cymraeg, a'r protestio oedd yng Nghymru yn y cyfnod. Mae agweddau ein cymdeithas at 'eithafiaeth' wedi newid yn sylweddol ers hynny, yn enwedig ar ôl bomio 11 Medi yn America yn 2001.
Beth felly yw eithafiaeth erbyn hyn? Dyma ofynnodd Cymru Fyw i Ned Thomas. Mae o wedi cyflwyno ei ddarn fel petai'n ymateb i ymholiadau plentyn yn yr oes hon:
Beth yw "eithafwr"?
Wel, dyn sydd yn mynd i eithafion, wyddost ti - neu ddynes wrth gwrs. Mae'r merched yn llawn cyn waethed, mae'n ddrwg gen i ddweud!
Mynd i eithafion? Lladd pobl gyda 'drones' ie? Bomio plant bach? Arteithio carcharorion?
Na, na, rhaid peidio byth â defnyddio'r gair 'eithafol' wrth sôn am lywodraeth neu fyddin. Rydym yn cadw'r gair ar gyfer y rhai sy'n gweithredu yn erbyn y drefn - er enghraifft, torri'r gyfraith wrth brotestio yn erbyn drones.
Dyna pam mae hi'n bwysig i ni beidio â galw ISIS yn 'wladwriaeth' - rhag i bobl ddechrau meddwl eu bod â'r un hawl i gosbi â llywodraethau'n ffrindiau yn yr Aifft neu Sawdi Arabia.
Pwy sydd yn penderfynu beth sy'n eithafol?
Ni, pobl y tir canol, yn naturiol. Y bobl gymedrol. Dyna'r drefn. Mae hi dipyn bach yn debyg, ti'n gweld, i'r ffordd yr ydym yn siarad am 'ranbarthau'. Mae'n dibynnu lle mae'r canol.
Os wyt ti'n byw yn Llundain mae Cymru yn rhanbarth ymylol. Os wyt ti'n byw yng Nghaerdydd, Gwynedd sydd yn rhanbarth pellennig. Ac mae "mynd i eithafion" fel mynd i Ben Llŷn.
Oes modd bod yn eithafol dros achos da?
Cwestiwn da iawn. Rwyf fi yn ddigon hen i gofio fel yn yr hen amser yr oedd gair gennym am fath arall o eithafiaeth, sef 'eithafiaeth iach'.
Y gair hwnnw oedd 'radicaliaeth' ac roedd yn golygu mynd i wreiddyn y drwg a chael gwared ohono. Roeddem ni'r Cymry bron i gyd yn gweld ein hunain yn 'radicaliaid' oedd am newid y gymdeithas er gwell.
Mae'n wir fod y pleidiau gwleidyddol pob un yn dal i addo 'polisïau radical' ond heddiw mae rhywun mewn perygl o ddrysu gan fod 'radicaliaeth y Chwith' i gael (a fydd, medd y papurau newydd, yn mynd â ni yn ôl i 80au'r ganrif ddiwethaf) a hefyd 'radicaliaeth y Dde' (fydd yn mynd â ni i 80au'r ganrif flaenorol).
Ond bellach mae'r ystyr yn newid eto wrth i ni weld y perygl o gael ein 'radicaleiddio' a throi yn eithafwyr ac yn derfysgwyr.
Ydy "eithafwyr" a "therfysgwyr" yr un peth?
Mae terfysgwyr yn gwneud pethau drwg ac mae'n ddigon hawdd eu hadnabod, ond mae eithafiaeth yn gallu bodoli yn y pen, ac wedyn sut fedrwn ni fod yn sicr pwy sydd yn eithafwr?
Mae rhai hefyd sydd "mewn perygl o droi yn eithafwyr" a ddim yn gwybod hynny - plant bach Mwslemaidd pump oed er enghraifft, a dyna pam mae gofyn i'w hathrawon gadw llygad barcud arnynt.
Mae'r geiriau 'ma i gyd yn newid gydag amser ac yn dibynnu ar lle byddwn ni'n sefyll. Mae'n wir am 'radicaliaeth' ac 'eithafwr' a hyd yn oed am 'y tir canol'. 'Does fawr o ystyr iddyn nhw felly. Ydw i wedi deall yn iawn?
Wel wyt, gwaetha'r modd, ac o ganlyniad mae'n anodd iawn i ddyn wybod ble'n union mae'n sefyll. Roedd hyd yn oed dyn parchus iawn fel Dafydd Iwan yn eithafwr unwaith, pan oedd yn peintio arwyddion ffordd am fod dim Cymraeg arnynt, ond heddiw dim ond eithafwyr fyddai'n awgrymu cael gwared â'r Gymraeg ar yr arwyddion hynny.
Roedd Nelson Mandela yn eithafwr, a gwaeth na hynny yn derfysgwr - ie, terrorist - ar un adeg, a bellach mae'n Sant. Rhag ofn i ti ofyn am Martin McGuinness yng Ngogledd Iwerddon - ni'n dal heb fod yn siŵr yn ei achos ef. Rwyt ti'n rhy fach i gofio, ond fe ddywedodd Mrs Thatcher (bendith arni) mai ei gwaith hi oedd symud y tir canol i'r lle yr oedd hi yn sefyll.
Oni fyddai'n well ein bod yn trafod gyda'r bobl sydd ddim yn cytuno â ni, pwy bynnag ydyn nhw, a gweld beth yn union maen nhw eisiau, yn hytrach na'u galw'n eithafwyr?
Gallwch glywed nifer o raglenni arbennig ar Radio Cymru i nodi 50 mlynedd ers boddi Tryweryn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2015