Hâf o hyd

  • Cyhoeddwyd
Heulwen yn chwarae rhan Magda yn Lan a Lawr
Disgrifiad o’r llun,

Heulwen yn chwarae rhan Magda yn 'Lan a Lawr'

Oes yna ddigon o gyfleoedd i actorion hŷn gael arddangos eu doniau ar y cyfryngau ac ar lwyfannau theatrau Cymru y dyddiau 'ma?

Ymhlith yr actorion sydd wedi gweld ei gyrfa yn cael ail wynt yn ddiweddar yw Heulwen Hâf.

Mae hi yn chwarae rhan Magda yn y gyfres 'Lan a Lawr' ar S4C. Mae hi'n sôn wrth Cymru Fyw am bwysigrwydd creu rhannau ar gyfer actorion sydd 'chydig dros eu deugain...

'Un ddrama fawr ydi bywyd'

Dyna beth sydd yn gwneud bywyd yn ddiddorol: un funud ar i fyny a'r nesa' ar i lawr.

Meddyliwch mor ddiflas ac undonog fyddai treulio pob dydd heb unrhyw newid i'ch emosiwn, i'ch gwedd nac i'ch agwedd at y byd a'i bobol.

Meddyliwch mewn difri fod popeth o bwys yn yr hen fyd 'ma, yn digwydd i ni rhwng 18 a 40! Dyna ddi-liw a di-bwrpas fyddai byw i fod yn hen - fel fi!

Diolch byth fod y byd yn dal i fynd 'Rownd a Rownd' a 'Lan a Lawr!' Diolch hefyd fod 'Pobol y Cwm' yn magu babis ac yn heneiddio efo ni.

Diolch na tydan ni'n cael ein gadael yn 'Y Gwyll' hyd ddiwedd oes. 'Parch' i bawb sy'n cynnig syniade, sy'n comisiynu ac yn sgwennu sgriptie i gadw'r henoed ar y sgrin.

Disgrifiad o’r llun,

Mi wnaeth Heulwen ysbrydoli nifer o ferched ar hyd a lled Cymru ar ôl rhaglenni dogfen oedd yn dilyn ei thriniaethau canser y fron

Wedi'r cyfan, un ddrama fawr ydi bywyd o'r crud i'r bedd, gydag ambell seibiant i synfyfyrio a sobri falle, pan fod salwch yn cymryd centre stage am sbel.

Ie, rhaglen ddogfen go iawn oedd 'Blodyn Haul' heb na sgript na diweddglo pendant. Dim ond byw… dyna oedd y gofyn a'r gobaith o ddydd i ddydd.

Ymhen 18 mis roedd fy mywyd ar y sgrin yn edrych 'Bron yn Berffaith' serch hynny. Feddylies i ddim y byddwn i'n cal cyfle i actio eto.

Yna allan o'r niwl daeth y ffilm fer 'Fi a Miss World' a gafodd ei henwebu am FAFFTA (BAFTA). Yn sydyn wedyn ces ran anfarwol Margaret yn 'Casualty', er, marw na'th Margaret.

Ond fe gododd yr actorion a'r criw i glapio gan mod i wedi marw mor dda. Wel o'n i wedi curo ar ddrws angau yn doeddwn!

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Heulwen yn "marw yn dda" yn 'Casualty'

Ta waeth, os buodd yna reswm i'r haul wenu arna i… dewisodd yr amser gore erioed. Falle bod y lleuad yn llawn a phob seren yn ei lle hefyd pan gefais y cynnig i chware rhan Magda yn 'Lan a Lawr.' Ydi, mae hi'n ffansio'i hun yn dipyn o artist, a deud y gwir, ma' hi'n ffansio'i hun - full stop! (pam fy newis i tybed?)

Mae Magda yn fadam o'i gwefuse i'w sgidie, dyn a ŵyr sut y tyfodd Jac, y mab, i fod mor annwyl (tebyg i'w dad falle - pwy bynnag oedd o.)

O oes, mae na bashiwn i gal ar benshiwn, a tydw i ddim yn siarad am y ffrwyth dalldwch! Yn hen neu yn ifanc - cariad ydi cariad, does dim dianc.

Pwy feddylie y bydde Magda a Cled, y ffansi man, yn rhannu'r fath ramant! Ydi'r garwriaeth yma efo Cled yn mynd i chwalu'r teulu, beth am Maes Gŵyr? Beth am yr holl helynt, y celwydd a'r cusanu rhwng y ffrindie da/drwg yn y De a'r Gogledd? Bobol bach… nôl a mlaen a 'Lan a Lawr' fyddwn ni am byth debyg!

Yn fy marn i, ma'r ddrama, y gomedi sefyllfa, y sebon a phob llwyfan a sgrin yn fwy credadwy a pherthnasol i bawb pan fod actorion o bob oed yn cyd-ddisgleirio.

Pwy ddudodd, yr hen a ŵyr a'r ifanc a dybia?

Lan a Lawr, S4C, Nos Fercher, 28 Hydref, 20:30