Dim uno cynghorau cyn etholiad y Cynulliad 2016
- Cyhoeddwyd
![llywodraeth leol](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/EECC/production/_86223116_f18f1873-e7ad-4c91-ac29-ab9769ba3207.jpg)
Mae Plaid Cymru wedi dod i gytundeb â Llywodraeth Lafur Cymru ar ad-drefnu llywodraeth leol.
Does gan Lafur ddim mwyafrif ac felly mae angen cefnogaeth plaid arall i gymeradwyo'r ddeddfwriaeth.
Byddai Bil Llywodraeth Leol yn ei gwneud hi'n bosib uno cynghorau ond mae'r cytundeb yn golygu na fydd modd uno unrhyw gynghorau cyn etholiad y Cynulliad fis Mai 2016.
"Mae Plaid Cymru wedi atal Llafur rhag cyflwyno eu map ad-drefnu llywodraeth leol drwy'r drws cefn cyn i bobl gael y cyfle i roi eu barn am y cynlluniau," meddai arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
'Ddim yn opsiwn'
"Nid gwleidyddion heb fandad ddylai benderfynu newidiadau mawr i strwythur llywodraeth leol, ond yn hytrach, y bobl mewn etholiad."
Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews: "Mae'n glir nad yw cadw'r drefn bresennol ar lywodraeth leol yn opsiwn ac mae modd rhoi rhan bwysig o'r strwythur yn ei lle ar gyfer ad-drefnu.
"Dylai pob plaid wleidyddol amlinellu eu cynlluniau ar gyfer yr etholiad."