Cwpan Rygbi'r Byd: Nigel Owens i ddyfarnu'r ffeinal
- Cyhoeddwyd
Y Cymro Nigel Owens sydd wedi ei ddewis i ddyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd rhwng Seland Newydd ac Awstralia.
Dyma fydd y bumed gêm yn y bencampwriaeth iddo ddyfarnu, ar ôl iddo ddyfarnu gemau Tonga v Georgia, Yr Alban v De Affrica a Ffrainc v Iwerddon - yn ogystal â'r gêm go gyn derfynol rhwng Seland Newydd a Ffrainc.
Bydd y ffeinal yn dechrau am 16:00 ar ddydd Sadwrn 31 Hydref, yn Twickenham.
Jerome Garces a Wayne Barnes fydd yn cynorthwyo Owens yn ystod y gêm.
Owens, 44, yw'r unig ddyfarnwr o Gymru yng Nghwpan y Byd eleni, a bu'n rhan o banel 2011 a 2007, yn ogystal.
Ef yw'r ail Gymro i ddyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd, ar ôl Derek Bevan, oedd yn dyfarnu wrth i Awstralia guro Lloegr yn 1991.
Dywedodd Owens ei fod yn "fraint ac yn anrhydedd" cael ei ddewis.
"Dyma fy nhrydedd Cwpan Rygbi'r Byd, a dwi'n meddwl y gorau. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth.
"Mae safon y rygbi wedi bod yn anhygoel o flaen torfeydd llawn, ac felly mae cael y cyfle i ddyfarnu'r ffeinal rhwng y timau gorau yn y gystadleuaeth yn fraint."
O Fynyddcerrig i ffeinal Cwpan y Byd
Magwyd Nigel Owens ym Mynyddcerrig, Sir Gâr. Cyn cymhwyso fel dyfarnwr, bu'n gweithio fel technegydd yn Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa.
Fe gymhwysodd fel dyfarnwr yn 2005.
Wedi iddo ddatgelu mewn cyfweliad yn 2007 ei fod yn hoyw, fe gafodd ei enwi'n 'Bersonoliaeth Chwaraeon Hoyw y Flwyddyn' gan elusen Stonewall wedi Cwpan Rygbi'r Byd y flwyddyn honno.
Cafodd ei hunangofiant ei gyhoeddi yn 2008, a'i gyfieithu i'r Saesneg yn 2009.
Yn 2011, cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd.
Mae'n ymwneud â nifer o ymgyrchoedd i amddiffyn pobl hoyw a thrawsrywiol, ac ef yw noddwr elusen Bullies Out yng Nghymru.