Arddangos dyluniadau Parc Gwyddoniaeth Menai

  • Cyhoeddwyd
Dyluniad o adeilad tri llawr ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai.
Disgrifiad o’r llun,

Adeilad tri llawr 5,000 medr sgwâr yw canolbwynt y cynlluniau

Mae gweinidog wedi croesawu "pennod newydd" i Ynys Môn a'i heconomi wedi i ddyluniadau ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai gael eu dadorchuddio.

Daw'r cyhoeddiad ddyddiau ar ôl i'r Undeb Ewropeaidd addo buddsoddi £10m yn y prosiect.

Gobaith rheolwyr y parc yw y bydd 350 o swyddi yn Gaerwen erbyn 2020.

Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, fod y dadorchuddio "yn nodi carreg filltir arall mewn pennod newydd sy'n argoeli i fod yn gyffrous a deinamig i'r ynys a'i heconomi".

Mae'r dyluniadau yn dangos adeilad tri llawr 5,000 medr sgwâr fydd yn ganolbwynt i'r parc.

Adeilad canolog Parc Gwyddoniaeth Menai o'r tu mewn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r prosiect wedi'i ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd

Ychwanegodd Mrs Hart bod "ffocws y parc ar ynni a thechnoleg lân a'i gynlluniau i gysylltu ymchwil academaidd gydag arbenigedd masnachol wedi'i dylunio i greu swyddi newydd, denu buddsoddiad newydd a chefnogi twf i fusnesau".

Bydd yn bosib i'r cyhoedd weld y dyluniadau mewn ymgynghoriad cyhoeddus yn festri Capel Disgwylfa, Gaerwen, dydd Iau 29 Hydref rhwng 10:30-19:30.