£6m i hybu economi ardaloedd o harddwch naturiol

  • Cyhoeddwyd
Cwm Elan, PowysFfynhonnell y llun, Jacques Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cwm Elan yn un o'r ardaloedd fydd yn derbyn buddsoddiad gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri

Bydd rhai o "dirweddau mwyaf nodedig Cymru" yn derbyn buddsoddiad o £6m er mwyn hybu'r economi wledig.

Bwriad y buddsoddiad gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yw diogelu'r tirwedd yn ogystal â "datblygu'r potensial economaidd llawn a gwneud cefn gwlad yn fwy ffyniannus".

Yr ardaloedd i dderbyn y buddsoddiad yw Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Cwm Elan a Gwastadeddau Gwent, sydd i gyd yn cael eu hadnabod fel ardaloedd o brydferthwch eithriadol.

Dywedodd pennaeth CDL y gallai cefn gwlad Cymru "chwarae rhan bwysig...yn tyfu economi ein cenedl".

'Lleoedd rhyfeddol'

Yn ôl CDL, mae gan bob un o'r ardaloedd dan sylw y "potensial" i ddefnyddio'u hadnoddau naturiol i gynyddu twristiaeth a chreu mwy o swyddi.

Byddai hyn yn cynnwys defnyddio'r tirwedd, bywyd gwyllt, adeiladau nodedig, traddodiadau lleol ac archaeoleg ddiwydiannol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae CDL yn dweud bod "potensial" mawr i ddatblygu twristiaeth a chreu swyddi

Disgrifiad o’r llun,

Ond maen nhw'n mynnu bod angen gwarchod natur hefyd

Mae'r corff yn dweud y bydd y buddsoddiad yn galluogi i bobl leol fod yn ganolog i'r datblygiad, a "phenderfynu sut ddylid gofalu am y lleoedd rhyfeddol hyn".

Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru: "Mae ein tirweddau trawiadol yn diffinio hanfod cymeriad Cymru ac maent yn gymaint rhan o bwy rydym â'n cestyll, iaith a rygbi.

"Maent yn golygu cymaint i'r bobl y mae Cymru'n gartref iddynt ag y maent i'r degau o filoedd o ymwelwyr sy'n dod i'w mwynhau.

"Rhaid gwarchod y lleoedd bregus hyn. Fodd bynnag, trwy eu rheoli'n ofalus, gall ein tirwedd a'n cefn gwlad chwarae rhan bwysig hefyd yn tyfu economi ein cenedl."

Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, Carl Sergeant: "Bydd y gefnogaeth werthfawr a roddwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn galluogi'r ardaloedd hyn i ffynnu o safbwynt amgylcheddol, ond bydd yr ardaloedd hefyd yn gallu elwa o fanteision economaidd newydd gan ymwelwyr a busnesau trwy greu swyddi newydd a chyfleoedd hyfforddiant pwysig."