Cwpan Rygbi'r Byd: 'Rhagdybiaeth' bod rhaid ciwio
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Cwpan Rygbi'r Byd wedi beirniadu'r profiad "annerbyniol" gafodd miloedd o gefnogwyr yng Nghaerdydd wrth geisio gadael y brifddinas ar drenau yn ystod y gystadleuaeth.
Ond dim ond tair gêm o'r 48 arweiniodd at broblemau trafnidiaeth ar ôl y chwiban olaf, meddai pennaeth gwasanaethau'r digwyddiad Mark Wright wrth bwyllgor y Cynulliad.
Dyma'r tair gyntaf gafodd eu cynnal yng Nghaerdydd, meddai.
Bu rhaid i rai teithwyr aros hyd at bedair awr am drên ar ôl dwy gêm yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Medi.
Ymddiheurodd cwmni trenau Great Western am yr oedi ar ôl y gêm gyntaf yn y brifddinas.
"Yng Nghaerdydd mae yna ragdybiaeth ei bod hi'n iawn i ofyn i gynulleidfa ddisgwyl tair i bedair awr," meddai Mr Wright.
"Mi gafon ni gyfarwyddyd i ddweud wrth ein cynulleidfa y dylen nhw ddisgwyl ciwio tair i bedair awr. Fe ddywedais i y diwrnod hwnnw na fydden ni'n gwneud hynny gan nad yw'n dderbyniol."
Fe wnaeth y trefnwyr ymddangos ger bron Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad ddydd Iau.
Maen nhw'n ymchwilio i'r problemau a gododd yn ystod y gystadleuaeth.
'Annerbyniol'
Fe gafodd £600,000 ei wario ar fysus gwennol er mwyn cludo cefnogwyr i Fryste i ddal trenau i Lundain yn dilyn y problemau, meddai'r trefnwyr.
Yn eu tystiolaeth ysgrifenedig pwysleisiwyd bod yr oedi yn "annerbyniol" i'r gemau ar 19 a 20 Medi - Iwerddon v Canada a Chymru v Uruguay.
Maen nhw hefyd yn cwestiynu gallu gorsaf Caerdydd Canolog i ddelio a nifer helaeth o bobl mewn amser byr.
Yn dilyn gêm Awstralia v Fiji ar 23 Medi, daeth y trefnwyr i'r casgliad bod:
Ciwio anhrefnus ar Stryd Wood a Heol Eglwys Fair ac nad oedd arwyddion gweladwy amlwg na bariau diogelwch;
Trenau heb eu defnyddio i'w llawn gapasiti;
Cyfathrebu gwael a diffyg arweiniad wedi arwain at gwsmeriaid gofidus.
Mae trefnwyr Cwpan y Byd yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
Yn eu plith mae gohirio trenau llwyth rhag mynd drwy'r orsaf am dair awr ar ôl gemau a newid y drefn o giwio a mynd ar drenau.