'Cyngor Wrecsam yn ceisio tanseilio' Safonau Iaith

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cyngor Wrecsam wedi dweud y byddai gweithredu'r Safonau yn costio £700,000

Mae un cyngor sir wedi gor-ddweud beth fyddai'r gost o weithredu'r Safonau Iaith newydd, yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Yn ystod cyfnod ymgynghori'r Safonau Iaith fe wnaeth Cyngor Wrecsam ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg i ddadlau y byddai cydymffurfio â'r Safonau yn costio £700,000 y flwyddyn yn ychwanegol.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo'r cyngor o or-ddweud y gost, a hynny fel ymgais i "danseilio" y Safonau.

Mae'r cyngor yn mynnu nad oedden nhw wedi gor-ddweud y costau, a bod y ffigyrau yn seiliedig ar yr amcangyfrifon gorau ar y pryd.

'Ymgais i gamarwain'

Roedd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau a Phartneriaethau Cyngor Wrecsam, wedi dweud wrth Comisiynydd y Gymraeg y byddai cost fawr ynghlwm â gweithredu'r safonau iaith.

Nid yn unig Cyngor Wrecsam oedd yn poeni, wrth i Gyngor Torfaen amcangyfrif cost ychwanegol o £680,000 y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan

Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y ffigyrau yn rhy uchel.

Dywedodd y Cadeirydd Jamie Bevan wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru bod yr hyn a wnaeth Cyngor Wrecsam yn "ymgais difrifol i gamarwain nid yn unig y Comisiynydd ond y cyhoedd er mwyn tanseilio y safonau".

Cost meddalwedd

Mewn llythyr at y Cynghorydd Hugh Jones, mae Cymdeithas yr Iaith yn tynnu sylw at y ffaith ei fod wedi dweud y byddai cost gweithredu'r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau oddeutu £500,000, er bod cynghorau eraill fel Sir Fynwy, Caerffili a Blaenau Gwent wedi datgan na fyddai cost ychwanegol o gwbl.

Mae'r llythyr hefyd yn tynnu sylw at y gost o brynu meddalwedd gramadeg a sillafu ar gyfer cyfrifiaduron y cyngor.

Yn ôl y gymdeithas mae Cyngor Wrecsam wedi amcangyfrif mai £96,250 fyddai cost y meddalwedd hwnnw, ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae'r gost yn llawer is - £1,925.

Disgrifiad o’r llun,

Meri Huws sy'n gyfrifol am sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio gyda'r Safonau Iaith

Mae'r ffigwr o £1,925 hefyd wedi ei gadarnhau gan Ganolfan Bedwyr - sy'n gyfrifol am y meddalwedd.

Yn ôl Pennaeth Uned Technolegau Iaith y Ganolfan, Delyth Prys, nid yw Cyngor Wrecsam wedi cysylltu gyda'r ganolfan er mwyn darganfod beth fyddai'r gwir gost.

"Gallwn ni fod wedi dweud wrthyn nhw, ar gyfer ei gweithwyr nhw, sef bron i 4,000 o weithwyr, y gost go iawn ydy £1,925," meddai.

"O beth o'n i'n gweld o'dd Cyngor Wrecsam wedi amcangyfrif y byddai'r pris tua £96,000, ac od hynna yn sioc fawr i fi, ac o'n i'n synnu na fydden nhw wedi sylweddoli bod rhywbeth o'i le gyda'r ffigwr 'na."

'Gwella gwasanaethau'

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones nad oedden nhw wedi gor-ddweud y ffigyrau, a'u bod yn seiliedig ar ei amcangyfrifon gorau.

Ond dywedodd bod y ffigwr bellach wedi gostwng i £250,000 y flwyddyn ar ôl i'r Comisiynydd "gynnwys eithriad mewn nifer o'r Safonau ble i ni nodi y byddai cost yn rhwystr i gydymffurfio".

Mae'r ffigwr hefyd yn cynnwys lleihad ym mhris y meddalwedd.

Ychwanegodd: "Mae Mr Bevan yn anghywir i ddweud bod y Cyngor yn gwario arian er mwyn atal defnydd o'r iaith Gymraeg.

"Nid yw'r Cyngor yn tanseilio hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg - yn wir, mae'r gwrthwyneb yn wir ac ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori â'n trigolion sy'n siaradwyr Cymraeg er mwyn cael gwybod sut y gallwn wella'r gwasanaethau a ddarparwn iddynt a'r rhwystrau maent yn eu hwynebu wrth gyfathrebu â'r cyngor yn y Gymraeg."