Chevron: Dim achos dynladdiad corfforaethol
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad yn ystod gwaith cynnal a chadw arferol ar y safle
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu nad oes digon o dystiolaeth i ddod ag achos o ddynladdiad corfforaethol yn dilyn ffrwydrad mewn purfa olew yn Sir Benfro yn 2011, pan fu farw pedwar o weithwyr.
Dywed datganiad ar ran yr Heddlu a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch bod y penderfyniad wedi ei gymryd ar ôl ymchwiliad manwl i'r digwyddiad.
Bu farw Julie Jones, 54, Andrew Jenkins, 33, Dennis Riley, 52, a Robert Broome, 48 yn dilyn y ffrwydrad ym mhurfa Chevron, Penfro ym Mehefin 2011.

Cafodd un person anafiadau difrifol yn y ffrwydrad ar y safle, sydd nawr yn berchen i gwmni Valero.
Yn dilyn y ffrwydrad fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch gynnal ymchwiliad troseddol ar y cyd, ymchwiliad sydd wedi para pedwar blynedd.
Dywed y datganiad: "Fe wnaeth cyfreithwyr arbenigol o Wasanaeth Erlyn y Goron gydweithio gyda'r ymchwiliad trwy gydol y cyfnod.
"Bu swyddogion cynorthwyo teuluoedd yn cynnig cymorth i'r teuluoedd trwy gydol y broses."
"Nid yw'n briodol i wneud sylw pellach gan fod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau a'r ymchwiliad troseddol i'r digwyddiad."
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch nawr yn ystyried a fyddant yn dwyn achos o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch.
Chevron
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd llefarydd ar ran Chevron: "Mae pawb yn Chevron yn dal wedi eu tristau'n ddifrifol o achos y golled i fywydau. Rydym yn parhau i gofio'r unigolion hynny, eu teuluoedd a chydweithwyr gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad.
"Mae ymchwiliad sydd yn cael ei gynnal gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau ac mae Chevron a Valero yn dal i roi eu cefnogaeth lawn a'u cydweithrediad.
"Mae ymrwymiad Chevron yn parhau o ran diogelwch gweithwyr, contractwyr a'r cymunedau ble rydym yn gweithio, ac rydym yn gweithio'n galed drwy'r amser i weithio'n ddiogel."