Galeri Caernarfon i ehangu gydag estyniad newydd

  • Cyhoeddwyd
GaleriFfynhonnell y llun, Google

Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu canolfan gelfyddydol Galeri yng Nghaernarfon gan ail-wampio'r adeilad presenol ac adeiladu estyniad newydd.

Y gobaith ydi y bydd yr estyniad ar agor erbyn dechrau 2018, ac fe fydd y cynllun yn cael ei ariannu gyda chefnogaeth arian Ewropeaidd ac arian Cronfa'r Loteri.

Wrth siarad am y datblygiad gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd Gwyn Roberts, prif weithredwr Galeri: "Mae'r cynllun mewn dau ran - fe fyddwn ni'n ail-wampio'r adnoddau presenol ym mis Ionawr a Chwefror ac yn adeiladu estyniad newydd gyda'r gwaith yn dechrau diwedd y flwyddyn nesaf.

"Mi fydd yr estyniad yn cynnwys dwy sgrin sinema ac adnoddau newydd.

Digwyddiadau

Ychwanegodd Mr Roberts: "Ryda ni wedi tyfu allan o'r adeilad presenol. Mae ganddo ni dros 400 o ddigwyddiadau yn Galeri dros gyfnod o flwyddyn ac mae cael un awditoriwm yn gallu creu problemau wrth geisio rhaglennu gwahanol ddigwyddiadau.

"Mae arian wedi ei sicrhau ar gyfer dylunio a datblygu'r safle ac mae arian wedi ei glustnodi ar yr ochr gyfalaf hefyd. Rydan ni'n ffyddiog fod hyn yn mynd i ddigwydd a'r cam nesaf ydi y bydd gweithdy dylunio yn cael ei gynnal mewn ychydig dros wythnos, ac yna fe fyddwn yn bwrw 'mlaen yn syth i wneud dyluniad manwl o'r estyniad.

"Mi fyddwn yn disgwyl gweld y dyluniad terfynol wedi ei orffen erbyn diwedd y gwanwyn ac yna fe fydd y gwaith adeiladu yn mynd allan i dendr. Mi fydda ni'n anelu i agor yr estyniad newydd erbyn dechrau 2018."

Fe fydd un sgrin yn yr estyniad newydd ar gyfer 120 o bobl a'r ail sgrin ar gyfer 70 o bobl.

Cafodd Galeri ei agor 10 mlynedd yn ôl.