Cymru 2-3 Yr Iseldiroedd

  • Cyhoeddwyd
Joe Ledley
Disgrifiad o’r llun,

Fe lwyddodd Joe Ledley i sgorio wedi i Joe Allen fethu cic o'r smotyn

Cymru 2-3 Yr Iseldiroedd

Roedd llond trol o goliau, ond yn anffodus, noson Yr Iseldiroedd oedd hi nos Wener yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Er gwaethaf nifer o anafiadau i rai o sêr y tîm, fe gafodd Chris Coleman a'i dîm hyfforddi, gyfle i arbrofi a rhoi cyfle i chwaraewyr newydd.

Un o'r chwaraewyr mwyaf addawol nos Wener, oedd ymosodwr Blackburn Rovers, Tom Lawrence, a ddangosodd gryn addewid i Coleman wrth iddo baratoi at Euro2016.

Disgrifiad o’r llun,

Emyr Huws yn sgorio ei gôl gyntaf dros Gymru

Fe ddaeth y gôl gyntaf i'r Iseldiroedd yn dilyn peniad gan Bas Dost cyn i Gymru unioni'r sgôr gydag ergyd gan Joe Ledley ar ôl i Jasper Cillessen arbed cic o'r smotyn gan Joe Allen.

Fe lwyddodd Arjen Robbe i adfer mantais Yr Iseldiroedd ar ddechrau'r ail hanner, cyn i Emyr Huws sgorio ei gôl gyntaf dros ei wlad a dod a Chymru yn gyfartal eto.

Wedi i'r gôl-geidwad o Ddyffryn Nantlle, Owain Fôn Williams ddod i'r cae yn lle Wayne Hennessey ac ennill ei gap cynta' dros Gymru, fe lwyddodd capten Yr Iseldiroedd, Arjen Robben i selio'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Bas Dost yn sgorio i'r Iseldiroedd