Cyswllt rhwng brecwast a chyrhaeddiad addysgol gwell

  • Cyhoeddwyd
PLentyn ysgol

Mae plant sy'n bwyta brecwast iachus yn llawer mwy tebygol o dderbyn graddau sy'n uwch na'r cyfartaledd ar ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol gynradd.

Dyna gasgliad yr astudiaeth gynta' i brofi cyswllt uniongyrchol a chadarnhaol rhwng arferion bwyta plant amser brecwast a'u cyrhaeddiad yn yr ysgol.

Fe wnaeth ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd gyfweld â 5,000 o ddisgyblion 9-11 mlwydd oed mewn mwy na 100 o ysgolion cynradd Cymreig, yn yr astudiaeth fwya' o'i bath erioed.

Dangosodd yr ymchwil nad oedd bwyta losin a chreision i frecwast, fel y nodwyd gan un o bob pump o blant, yn cael effaith gadarnhaol ar eu perfformiad mewn profion.

Effaith sylweddol ar berfformiad

Fe wnaeth yr ymchwilwyr ofyn i ddisgyblion restru'r holl fwyd a diod yr oedden nhw wedi'i fwyta dros gyfnod o 24 awr. Cafodd eu canlyniadau mewn asesiadau gan athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 eu cymharu gan ymchwilwyr 6-18 mis yn ddiweddarach.

Roedd y tebygolrwydd o dderbyn gradd uwch na'r cyfartaledd hyd at ddwywaith mor uchel i blant oedd yn bwyta brecwast, o'i gymharu â'u cyfoedion nad oedd yn gwneud.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dangosodd yr ymchwil bod un o bob pump plentyn yn bwyta creision neu fferins i frecwast

Ynghyd â'r nifer o eitemau iachus gafodd eu bwyta i frecwast roedd arferion bwyta eraill - gan gynnwys y nifer o losin a chreision, a ffrwythau a llysiau gafodd eu bwyta weddill y dydd oll i'w gweld yn cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar berfformiad addysgol.

Fe gafodd y canlyniadau eu cyhoeddi yn y cylchgrawn Public Health Nutrition, ac yn ôl yr ymchwilwyr fe allen nhw gael goblygiadau mawr ar gyfer gwneuthurwyr polisi.

Cymhlethdod digroeso?

Fe ddywedodd Hannah Littlecott, prif awdur yr adroddiad gan Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella lechyd Prifysgol Caerdydd (DECIPHER):

"I ysgolion, mae clustnodi amser ac adnoddau ar gyfer gwella iechyd plentyn yn gallu cael ei weld fel cymhlethdod digroeso pan eu bod yn canolbwyntio ar eu prif waith sef addysgu - a hynny yn raddol oherwydd y pwysau sy'n cael eu gosod ar sicrhau cyrhaeddiad addysgol y plentyn.

"Ond yn amlwg, fe allai gosod ymdrech i wella iechyd wrth galon gwaith yr ysgol ddarparu gwelliannau addysgol hefyd."

Yng Nghymru mae'r rhan fwyaf o ysgolion cynradd yn cynnig brecwast am ddim, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

'Syrthio i gysgu'

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn cynnig brecwast am ddim i blant

Yn ôl Kevin Davies, Prifathro Ysgol y Wern yn Ystalyfera mae'n amlwg i athrawon pa blant sydd heb gael pryd bwyd yn y bore:

"Erbyn oddeutu 10 o'r gloch maen nhw'n dechrau gwegian. Ac mae'n cael effaith ar eu hymddygiad a'r graddau y maen nhw'n canolbwyntio yn y gwersi. Mae rhai plant hyd yn oed yn syrthio i gysgu.

"Felly yn y gorffennol ry'n ni wedi dod â'r plant i'r gegin i sicrhau eu bod yn bwyta rhywbeth i'w cadw nhw i fynd tan amser cinio.

"Mae'n amlwg i ni bod dod i'n clwb brecwast ni yn helpu plant i ganolbwyntio a chwblhau eu gwaith yn y dosbarth - a ma' hynny'n parhau gydol y dydd."

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi croesawu canlyniadau'r astudiaeth, gan ddweud eu bod yn cefnogi'r alwad i ysgolion ystyried cyflwyno mesurau i wella iechyd eu disgyblion.