Ymweliad brenhinol i elusen yng Nghaernarfon yn 'eironig'
- Cyhoeddwyd
Wrth i Ddug a Duges Caergrawnt ymweld â gogledd Cymru, mae un o'r elusennau mae'r pâr yn ymweld â nhw wedi disgrifio'r ymweliad fel un "eironig".
Daeth torf fawr i'r Maes yng Nghaernarfon i groesawu'r cwpl brenhinol ddydd Gwener.
Ond yn ôl elusen GISDA, mae'r "ymweliad brenhinol i elusen digartrefedd yn eironig o ran yr anghyfartaledd gan bod ill dau, ddau begwn oddi wrth ei gilydd".
Mae'r elusen yng Nghaernarfon yn helpu pobl ifanc digartref ar draws Gwynedd.
Er hynny, mae Gisda'n dweud eu bod yn "ymwybodol bod Dug a Duges Caergrawnt yn gefnogol iawn i elusennau yn ymwneud â phobl ifanc bregus".
Mae'r Tywysog William yn noddwr i elusen Centrepoint, elusen sy'n ymdrin â phobl ifanc digartref yn y DU.
Ymweld ag elusennau Caernarfon
Bu'r ddau'n ymweld â sawl cynllun yn y gogledd gan gynnwys prosiect ffotograffiaeth sy'n cael ei redeg gan elusen MIND, a sefydliad 'Men's Shed', sy'n gynllun cenedlaethol sy'n gweithio er lles iechyd meddwl dynion ifanc.
Cawson nhw hefyd drosolwg o waith GISDA, a chyfarfod rhai o'r bobl ifanc sy'n cael help gan yr elusen.
Dywedodd Siân Tomos, prif weithredwr GISDA: "Does dim teimlad gwell yn y byd na gweld person ifanc yn datblygu a hynny gyda rhwystrau anodd iawn."
Mewn datganiad i Cymru Fyw, fe ychwanegodd ei bod yn "ofni serch hynny bod ein cyllid yn cael ei dorri'n sylweddol y flwyddyn nesaf".
"Rydym felly ar sail hynny yn gweld yr ymweliad fel cyfle i roi digartrefedd ar blatfform, dod a digartrefedd i'r wyneb ac yn bwnc trafodaeth ymysg trigolion yr ardal a Gogledd Cymru.
"Mae ymweliad brenhinol i elusen digartrefedd yn eironig o ran yr anghyfartaledd gan bod ill dau, ddau begwn oddi wrth ei gilydd. Wedi dweud hynny rydym yn ymwybodol bod y Dug a Duges Caergrawnt yn gefnogol iawn i elusennau yn ymwneud â phobl ifanc bregus."
'Agos at galon'
Yn ôl llefarydd ar ran Palas Kensington: "Mae'r pwnc yn agos at galon y Dug, a'i wraig, gan fod y Tywysog yn noddwr i elusen Centrepoint, elusen sy'n ymdrin â phobl ifanc digartref."
Dywedodd y llefarydd hefyd fod y Dug a'r Dduges yn "hynod o falch" o gael dychwelyd i ogledd Cymru ar gyfer yr ymweliadau.
Bu'r ddau'n byw am nifer o flynyddoedd ar Ynys Môn.