Dreifio nôl dros 'Dolig
- Cyhoeddwyd
![Aladdin](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9CC1/production/_87092104_ieueleni.jpg)
Ieuan fel Ymerawdwr Tseina ym mhanto 'Aladdin' eleni yn Sheffield
Tra bydd y rhan fwyaf ohonoch chi yn mwynhau cyfnod bywiog gyda'r teulu dros ŵyl y Nadolig, bydd yr actor Ieuan Rhys yn diddanu cannoedd o blant neu'n rhuthro lan a lawr priffyrdd Prydain.
Dyna'r pris sydd yn rhaid i chi ei dalu, pan 'dy chi'n actio mewn panto yn bell o gartref. Yma, mae Ieuan yn rhoi rhyw syniad i ni i gyd am ei amserlen eleni ac am flynyddoedd sydd erbyn hyn yn bell...'tu ôl iddo!'
![line break](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/mcs/media/images/66239000/gif/_66239292_line2.gif)
Yn y gwaed
Dwi wedi bod yn ffan o bantomeimiau ers yn grwt yn cael gweld sêr fel Dick Emery, Norman Vaughan, Jack Douglas a Stan Stennett yn y New Theatre, Caerdydd ac wrth gwrs yr anfarwol Ryan a Ronnie yn Theatr y Grand, Abertawe. Hyd yn oed yn mynd i'r theatr pan yn hŷn i weld nifer fawr o bantomeimiau.
Bellach mae'r panto yn ddarn allweddol o'm mywyd a'm gyrfa. Eleni bydda i wedi bod mewn panto am 14 o flynyddoedd. Y cyntaf oedd 'Snow White' yn y Coliseum, Aberdâr - oedd yn hyfryd gan taw dyna oedd fy theatr leol pan yn tyfu lan. Bernard Latham ('Hollyoaks' a 'Pobol y Cwm') ac Adrian Morgan ('Doctors') oedd sêr y cynhyrchiad hwnnw.
Dyma'r pedwerydd tro yn olynol i fi weithio i gwmni Evolution sydd yn cynhyrchu wyth panto ledled Lloegr. Y tro cyntaf oedd 'Sleeping Beauty' yn 2012 yng Nghaergaint gyda Gareth Gates a Toyah Willcox. Ges i amser gwych... wedi i'r diwrnod cyntaf ddod i ben.
Mae diwrnod cyntaf pob cynhyrchiad fel diwrnod cynta' ysgol. Rwyt ti'n ofnus ac yn nerfus. Dyma oedd y cynhyrchiad cyntaf erioed i fi lle do'n i ddim yn 'nabod NEB o'r cast na'r criw. Yr hyn sy'n od yw erbyn chwech o'r gloch y noswaith 'ny ro'n ni gyd yn y pyb, a fi'n siarad gyda Toyah am ei anifail anwes - cwningen oedd yn byw o dan ei gwely, a sgwrsio gyda Gareth Gates am y Cymry ro'dd e'n gweithio gyda nhw yn 'Les Miserables'. Siarad fel 'sen i'n nabod nhw gyd ers blynyddoedd.
![Golygfa o panto 'Sleeping Beauty'](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B724/production/_86748864_sleepingbeauty2.jpg)
Golygfa o panto 'Sleeping Beauty' yn 2012
Gweithio'n galed...chwarae'n galed
Mae tymor panto yn dymor prysur. Ymarfer drwy'r dydd am bythefnos (gan fynd i droi nifer o oleuadau 'Dolig mlaen wedi ymarfer... llefydd fel Whitstable, Deal a Dover). Yna 13 sioe yr wythnos gan gynnwys tair ar ddydd Sadwrn a dwy ar ddydd Sul. Rhywsut 'dych chi ddim yn blino - mae momentwm y sioe a'r hwyl gefn llwyfan yn eich cadw i fynd.
Falle byse Gareth [Gates] yn cynnal parti yn ei dŷ gyda'i gariad Faye Brooks (sy' bellach yn chwarae Kate Connor yn 'Coronation Street') - ond byse pawb yn ffres ar gyfer dwy sioe'r diwrnod canlynol!
Yr hyn sy'n anodd am wneud panto fel hyn dros Dolig yw bod bant o gartre am amser hir a dros yr ŵyl fyd. Gyda Chaergaint daeth y teulu lawr ataf i, a n'ethon ni logi fflat am yr wythnos 'ny. Neis, ond ddim fel bod gartre.
Pan sonies i wrth Cai'r mab hynna'r flwyddyn ganlynol bo fi'n neud panto arall ei ymateb oedd "Oh na! Dim Canterbury eto?" Yn amlwg smo' plant yn lico bod bant o gartre a'u pethe nhw eu hunain dros Dolig.
![Ieu ar y chwith yn dawnsio gyda Stephen Mullhern (canol) yn 2013](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/10544/production/_86748866_cinderella2.jpg)
Ieu ar y chwith yn dawnsio gyda Stephen Mullhern (canol) yn 2013
Dolig oddi cartref
Felly yn 2013 pan es i bant i'r Hawth Theatre yn Crawley i 'neud 'Cinderella' gyda Stephen Mullhern ('Catchphrase') doedd dim cwestiwn ynglŷn â Dolig. Roedd dad yn dod adre.
Roedd hyn yn bosib wrth gwrs, ond yn dair awr a hanner o daith. Ma' wastad dwy sioe'r diwrnod cyn Dolig a dwy ar ddydd San Steffan. Noswyl Nadolig yw diwrnod fy mhen-blwydd. Felly ro'n i ar y llwyfan trw'r dydd a gadael Crawley am 8.30pm er mwyn treulio'r gweddill y diwrnod ar y draffordd. Yna stopio am baned a ham roll i ddathlu mewn gwasanaethau ar y ffordd adre!
Joio'r Dolig (a chysgu lot) gyda'r teulu ac yna gadael mewn da bryd am Crawley bore Gŵyl San Steffan.
Do'n i ddim wedi meddwl am y miloedd oedd yn heidio i sêls Llundain. Wedi cyrraedd yr M25 ro'n i'n styc... dim byd yn symud. Roedd y sioe am 2pm. Am hanner awr wedi un ro'n i dal yn styc. Ffonio'r cyfarwyddwr. Fi mewn panic. Cyrraedd y theatr am 1.55. Newid i'n nillad yn gloi - dim colur - a mla'n a fi i'r llwyfan.
Doedd y gynulleidfa ddim callach - tan i Stephen Mullhern ddechrau ar ei antics "Where have you been Baron Hardup? Stuck on the M25? Glad you could make the show" ac ati ac ati!
Yeovil oedd tre' 2014 a 'Jack & The Beanstalk' oedd y panto. Braf oedd y ffaith taw dim ond awr a hanner can munud bant oedd Caerdydd - felly doedd teithio nôl ddim yn broblem.
Er hyn dechreues i nôl yn gynnar iawn ar fore dydd San Steffan, gyda dim traffic! Ro'n i nôl yn Yeovil gyda dros ddwy awr i fynd cyn y sioe!
![Ieuan gyda Chris Gascoyne tyra'n ymarfer panto eleni](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15364/production/_86748868_ieuachrisgascoignepeterbarlow.jpg)
Ieuan gyda Chris Gascoyne tra'n ymarfer panto eleni
Rhywun eisiau lifft i Gaerdydd?
Eleni dwi yn Sheffield yn 'Aladdin' gyda Chris Gascoyne (Peter Barlow - 'Coronation Street'). Y peth cyntaf wnes i wedi derbyn y swydd oedd edrych ar yr 'AA Route Planner' i weld faint o amser byse fe'n gymryd i gyrraedd Sheffield. Tair awr ac ugain munud o Gaerdydd.
Buodd ffrind i fi yn gwneud panto yn Sheffield yn 2009 a gan nad oedd hi'n dreifio buodd rhaid iddi aros yn ei digs dros Dolig a threulio prynhawn Dolig yn Cafe Rouge gydag un o'r corachod!
Dwi ffaelu dychmygu peidio gweld y bois yn agor eu presantau ar fore Dolig, er bellach mae Llew yn 14 a Cai yn 16! Felly Noswyl Nadolig fe fydda i'n teithio ar hyd yr M1,M42, M5 a'r M4 er mwyn cyrraedd mewn da bryd. O leiaf eleni ma'r ail sioe ar y 24ain yn cwpla am 5.30pm.
Byddai nôl erbyn sioe 2pm ar y 26ain. Mae'n lot o deithio dwi'n gwybod ond chi'n gwybod beth? Ma' fe werth e. Werth e i gael gweithio mewn panto dros Dolig ac yn werth e er mwyn gweld y teulu ddydd Dolig.
Os fyddwch chi lan yn Sheffield rhwng Rhagfyr 4ydd ac Ionawr 3ydd - popiwch mewn i'r Lyceum - fan'na fydda i wedi gwisgo fel Ymerawdwr Tseina! Os y'ch chi moyn lift nôl i Gaerdydd ar y 24ain - gadwch wybod!
Dwi'n mynd i joio'r teithio. O nag wyt ddim! O odw mi ydw i!"
![Cast panto eleni yn ystod ymarferion](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1ECC/production/_86748870_castdiwrnodcyntaf.jpg)
Cast panto eleni yn ystod ymarferion
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2015
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2015