Pryder am gartref nyrsio ger Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
cartref
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn "nifer o bryderon" am y cartref

Mae cartref nyrsio yng Ngwynedd wedi ei wahardd rhag derbyn mwy o bobl oherwydd pryderon am safon y gofal a methiant i gydymffurfio â dros 12 o reoliadau.

Y corff sy'n arolygu cartrefi o'r math yma - Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) - sydd wedi gosod y gwaharddiad ar gartref Plas y Bryn, ym Montnewydd ger Caernarfon.

Maen nhw wedi cynnal tri arolygiad yn y cartref eleni - a'r adroddiad diweddaraf wedi'i gyhoeddi fis diwethaf.

Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn "nifer o bryderon" am y cartref yn ystod y 18 mis diwethaf.

Pryder un teulu am safon y gofal a gafodd eu tad sydd i'w glywed ar raglen Manylu Radio Cymru ddydd Iau.

Mis o rybudd

Mae Wendy Crisp a Melfyn Thomas yn honni mai oherwydd cwynion niferus am Blas y Bryn y cawson nhw lythyr gyda mis o rybudd yn gofyn iddyn nhw symud eu tad o'r cartref.

Mae gan William Corbett Thomas, 88, dementia.

Disgrifiad o’r llun,

Wendy Crisp a Melfyn Thomas yn trafod eu pryderon hefo'r gohebydd Nia Thomas

"Roedd 'na feddyginiaeth ar fwrdd Dad . Be' oedd wedi digwydd - a mi wnaetho' nhw gyfadde' hyn - roedd y nyrs oedd wedi bod rownd yn y bore wedi gadael dos o forffin ar fwrdd Dad oedd i fod i rywun arall.

"Mi roedd hi wedi anghofio ei bod hi wedi ei roi yno am fod rwbath wedi digwydd. Ond mae Dad yn allergic i forffin... mi fasa fo'n hawdd fod wedi llyncu'r morffin yna," meddai.

Disgyblu

Mewn llythyr at y teulu, dywedodd y cartref mai digwyddiad anarferol oedd hwn a bod y nyrs wedi'i disgyblu.

Mae diffygion wrth roi meddyginiaethau yn un o'r gwendidau sy'n cael eu nodi yn adroddiad yr arolygiaeth.

Cododd Melfyn Thomas a Wendy Crisp hefyd bryderon nad oedd eu tad yn cael cymorth i fwyta ac yfed pan nad oedd y teulu'n bresennol - gwendid arall sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Melfyn Thomas doedd o ddim yn teimlo fod rheolwyr y cartref yn cymryd eu cwynion o ddifrif

Dywedodd Melfyn Thomas: "Roedd hynny'n rhywbeth oedd yn gynyddol rhwystredig i ni fel teulu.

"Mi roedden ni'n tynnu sylw at y ffaith nad oedd o'n yfed nag yn byta, oni bai fod rhywun yn g'neud hynny iddo fo, tynnu sylw at y ffaith nad oedd gadael tabledi o'i flaen o'n ddigon da ac nad oedd o'n cymryd ei dabledi oni bai fod rhywun yn eu rhoi nhw iddo fo.

"Ond doedd 'na ddim lot yn cael ei 'neud ac ella yn waeth na hynny, y teimlad roedden ni'n ei gael oedd nad oedd llawer o ots chwaith."

Ym mis Gorffennaf y llynedd mi gafodd y teulu lythyr gan berchennog y cartref yn dweud ei bod hi'n amlwg nad oedd y cartref yn cyrraedd eu disgwyliadau ac yn gofyn iddyn nhw ganfod cartref arall i Mr Thomas.

Fe gawson nhw fis o rybudd i wneud hynny,

Ymchwiliad trylwyr

Mewn llythyr at raglen Manylu, dydi rheolwyr Plas y Bryn ddim yn egluro pam eu bod wedi gofyn i'r teulu wneud hyn, gan nodi nad oes modd trafod unrhyw achos unigol.

Ond maen nhw'n dweud eu bod wedi cynnal ymchwiliad trylwyr i gwynion y teulu, ynghyd â phryderon rhai aelodau staff am ymddygiad rhai aelodau o'r teulu.

Mae'r cartref yn "gweithio'n galed", meddai nhw, i geisio mynd i'r afael â'r rheoliadau nad ydyn nhw'n cydymffurfio a nhw.

Ar ôl misoedd yn cael gofal yn nhŷ ei ferch - am nad oedd cartref gofal addas ar y pryd - mae William Thomas newydd symud i gartref newydd ar gyrion Caernarfon.

Mae Melfyn Thomas yn dweud fod 'na "wersi pwysig i'w dysgu" o brofiad y teulu.

"Mae 'nhad ddigon lwcus fod ganddo wraig a thri o blant sy'n fodlon cnocio drysau a gofyn pam nad ydi hyn llall ac arall yn cael ei wneud.

"Ond tydi pob claf ddim yn yr un sefyllfa hefo teulu - hefo perthnasau yn fyw.

"Mae'n gwneud i'n oer tu fewn wrth feddwl am bobl sydd hefo perthnasau yn yr un sefyllfa ac yn amlwg does ganddyn nhw ddim llais.. Sut fedra nhw gael llais?"

MANYLU, Radio Cymru, dydd Iau am 12:30 a dydd Sul am 13:30.

Hefyd gan y BBC