Pafiliwn newydd a gweddill o £55,000

  • Cyhoeddwyd
pafiliwn newydd Eisteddfod Genedlaethol

Ddydd Sadwrn, fe ddatgelodd Eisteddfod Genedlaethol Cymru y pafiliwn newydd, fydd yn ymddangos ar faes y Brifwyl am y tro cynta' yn Y Fenni yn 2016.

Fe ffarweliodd y 'Steddfod â'r pafiliwn pinc ym Maldwyn eleni.

Cwmni Neptunus sydd wedi ennill y cytundeb i ddarparu'r brif babell.

Mewn cyfarfod yn Aberystwyth, fe ychwanegodd Cyngor yr Eisteddfod fod gweddill o £54,721 yn dilyn Prifwyl Maldwyn.

'Cyfnod newydd'

Fe ddywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: "Mae hwn yn gychwyn ar gyfnod newydd ar ôl deng mlynedd o gynnal ein cystadlaethau a'n seremonïau yn y Pafiliwn Pinc.

"Fe fyddwn ni, fel pawb arall yn gweld eisiau'r Pafiliwn Pinc. Roedd yn adeilad eiconig a gydiodd yn nychymyg pawb, ond mae'n bryd i ni symud ymlaen, a rydym ni'n edrych ymlaen yn arw i gael pafiliwn newydd ar y Maes yn Y Fenni.

"'Evolution' yw enw'r strwythur newydd ac mae'i ddyfodiad yn esblygiad pendant i ni fel Eisteddfod, gan gynnig profiad llawer gwell i'r gynulleidfa a phawb sy'n perfformio ar y llwyfan.

"Bydd yr adnoddau'n ardderchog, gyda photensial i ni ddefnyddio'r gofod mewn ffordd wahanol a newydd, gan ein galluogi ni i fod yn uchelgeisiol a chreadigol, a rydym i gyd yn edrych ymlaen at y cyfleoedd a ddaw dros y blynyddoedd nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r pafiliwn pinc yn ganolbwynt i faes y Brifwyl am ddegawd

'Ymateb i'r gofynion'

Yr her nawr, yn ôl y prif weithredwr, ydy "creu delwedd ddeniadol a gafaelgar ar gyfer ein Pafiliwn newydd. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i drawsnewid y Maes, a'r pafiliwn newydd yw ein prosiect nesaf".

"Atyniad mwyaf y Pafiliwn Pinc oedd ei edrychiad, a rhoddodd ddelwedd unigryw i'r Eisteddfod am ddegawd gyfan, ond roedd o'n strwythur rhwystredig iawn hefyd.

"Roeddem ni'n colli nifer fawr o seddi da oherwydd bod angen nifer o bolion i'w ddal i fyny, ac roedd sŵn yn gallu achosi problemau i ni hefyd yn ystod cystadlaethau. Mae'r adeilad newydd yn fwy cadarn ac yn ymateb i'n gofynion ni fel trefnwyr a'r gynulleidfa.

"Wrth gwrs, nid pabell drawiadol binc mohono, ac ydi, mae edrychiad allanol y strwythur newydd yn wahanol iawn. Ac mae hyn yn her arall i ni fel tîm, i greu delwedd ddeniadol a gafaelgar ar gyfer ein Pafiliwn newydd.

"Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i drawsnewid y Maes, a'r pafiliwn newydd yw ein prosiect nesaf."

Ychwanegodd y prif weithredwr y bydd yr eisteddfod yn "gweithio ar syniadau dros y misoedd nesaf ac yn chwilio am gefnogaeth i'n helpu ni i sicrhau bod y pafiliwn newydd yn cymryd ei le".

Gwaddol Maldwyn

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddiolchodd Elfed Roberts i Beryl Vaughan a'r pwyllgor gwaith ym Maldwyn am eu gwaith

Yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth, fe ddiolchodd Elfed Roberts i bwyllgor gwaith y Brifwyl ym Maldwyn, gan gyhoeddi fod gweddill o £54,721 wedi'r Eisteddfod eleni.

"Roeddem yn ffodus iawn yn ein gwirfoddolwyr a'n pwyllgorau eleni, a llwyddwyd i greu amserlenni hynod amrywiol a diddorol ar hyd a lled y Maes. Roedd egni a brwdfrydedd cadeirydd y pwyllgor gwaith, Beryl Vaughan, yn heintus, a diolch iddi am ei holl waith ac am arwain o'r blaen trwy gydol y prosiect.

"Mae heddiw hefyd yn gyfle i ddiolch i bobl Maldwyn a'r Gororau yn ffurfiol, yn ogystal â diolch i Gyngor Sir Powys, yn aelodau etholedig a staff, am eu holl gefnogaeth a chymorth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Mae bob amser yn braf cyhoeddi bod gweddill ariannol ar ôl unrhyw Eisteddfod, ond mae'n arbennig o braf gwneud hynny pan rydym yn dal i fod ynghanol cyfnod ariannol heriol."

Fe ddywedodd bod 150,000 o bobl wedi ymweld â'r maes ym Meifod yn ystod cyfnod heriol, ac mai'r flaenoriaeth "dros y misoedd nesaf yw denu'r 150,000 o ymwelwyr - a mwy - i ddod atom i Sir Fynwy a'r Cyffiniau y flwyddyn nesaf.

"Mae'r Maes yn nhref y Fenni mewn lleoliad ardderchog, ac wrth gwrs, bydd gennym bafiliwn newydd sbon yn goron i'r cyfan."