Edrych nôl ar y Pafiliwn
- Cyhoeddwyd

Mi fydd 'na Bafiliwn newydd sbon i groesawu eisteddodwyr i Brifwyl y Fenni yn 2016.
Mae hynny yn golygu mai Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau 2015 oedd ymddangosiad olaf y Pafiliwn pinc eiconig.
Dros y blynyddoedd mae sawl adeilad dros dro wedi cartrefu y prif gystadlaethau. Dyma i chi syniad sut mae edrychiad y Pafiliwn wedi newid dros y blynyddoedd:

Yn 1872, cafodd Eisteddfod Gadeiriol Eryri ei chynnal yn Nhremadog ar 28-30 Awst, a cynlluniwyd y Pafiliwn gan y peiriannydd a'r pensaer lleol, Thomas Roberts

Yr awdl fuddugol yn Eisteddfod Freiniol Bangor yn 1874 oedd 'Awdl y Beibl' gan E Gurnos Jones, Talysarn

Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1882 oedd Dafydd Rees Williams am y bryddest ar y testun 'Y Cadfridog Garfield', ond doedd neb yn deilwg o'r Gadair.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1895, enillydd y Gadair oedd John Owen Williams (Pedrog), ac mae'r Gadair fawr bren addurniedig bellach yn ôl yn Llanelli, ac yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Parc Howard

Crwys oedd y bardd buddugol yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol

Cafodd Eisteddfod Genedlaethol 1924 ei chynnal ar 4-9 Awst ym Mharc Mhontypŵl, ac enillydd y Gadair oedd Cynan

Roedd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1933 yn un hynod anarferol, gan ei bod wedi ei cherfio yn Shanghai, wedi iddi gael ei chomisiynu gan J R Jones, gynt o Dalysarn

Roedd rhaid rhoi baner Jac yr Undeb newydd ar do Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955, ar ôl i'r un gwreiddiol gael ei dwyn y noson gynt

Yr Archdderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol 1963 oedd Cynan, ar ddechrau ei ail dymor yn y swydd, ar ôl ei gyfnod cyntaf fel Archdderwydd yn yr 1950au

Morgan Mathias, o Sydney oedd Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor a'r Cylch yn 1971

Selwyn Iolen enillodd y Goron ym mhafiliwn streipiog gwyrdd a melyn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1989. Daeth yn Archdderwydd yn Eisteddfod 2005

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2005 oedd yr wythfed tro i'r ŵyl ddod i gyffiniau Bangor

Ers Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006, mae pafiliwn pinc wedi cael ei ddefnyddio i gynnal y cystadlaethau, cyngherddau a'r seremonïau - ond tybed beth fydd yn cymryd ei le yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016?