Siarter iaith newydd i ysgolion Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae siarter iaith newydd ar gyfer ysgolion Sir Gaerfyrddin yn cael ei lansio ddydd Gwener.
Bydd cynllun Codi Caerau Sir Gâr yn cael ei lansio yn Yr Atom, y ganolfan Gymraeg newydd ar Heol y Brenin yng Nghaerfyrddin.
Nod y siarter yw annog pobl ifanc i ddysgu Cymraeg ac i ddefnyddio'r iaith - nid yn unig gydag athrawon - ond o amgylch yr ysgol, gyda ffrindiau, rhieni, a defnyddio technoleg Gymraeg fel apps a gwrando ar gerddoriaeth Gymreig a gwylio rhaglenni Cymraeg.
'Holl gyfleoedd'
Dau sy'n cefnogi'r siarter yw'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens o Fynyddcerrig a chyflwynydd y One Show ar y BBC, Alex Jones o Rydaman.
"Heb fy addysg Gymraeg yn yr ysgol," meddai Nigel, "fydden i ddim wedi cael yr holl gyfleoedd i gyflwyno a pherfformio a fydden i ddim wedi cael fy annog i ddechrau dyfarnu yn 16 oed.
"Rwy'n cario'r Gymraeg 'da fi ble bynnag dwi'n dyfarnu yn y byd. Cyn pob gêm rwy'n gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg.
"Dwi'n ddigon ffodus i gael dwy iaith ac mae'r Gymraeg yn rhan bwysig o bwy ydw i."
Dywedodd Alex: "Mae'r ffaith fy mod i wedi derbyn addysg ddwyieithog wedi bod yn hollol ganolog yn fy natblygiad fel person ac i'm gyrfa fel darlledwr.
"Yn fwy na dim, mae'r gafael sydd gennyf ar ddwy iaith wedi rhoi i mi deimlad arbennig o gryf o berthyn ac o dreftadaeth."
Dywedodd y Cyngorydd Gareth Jones, aelod y bwrdd gweithredol dros addysg a gwasanaethau plant: "Mae'n diwrnod hanesyddol yn Sir Gaerfyrddin wrth lansio'r siarter iaith newydd. Mae'n gam arall ymlaen wrth i ni geisio adfer sefyllfa'r Gymraeg yn y sir."