Is-ganghellor prifysgol am roi'r gorau i'w swydd

  • Cyhoeddwyd
April McMahon

Mae is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y bydd hi'n gadael yn 2016.

Bydd yr Athro April McMahon yn rhoi'r gorau i'w swydd ym mis Gorffennaf pan fydd ei thymor yn dod i ben.

"Rwy'n hynod o falch o fy ngwaith gyda chymaint o bobl eithriadol," meddai, "wrth sicrhau bod y brifysgol ar lwybr sicr i gynaliadwyedd.

"Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint arwain y brifysgol arbennig hon wrth ddelio ag anawsterau ac, yn fwy na dim, wrth annog pawb i ddathlu ein llwyddiannau."

'Cyfraniadau positif'

Dywedodd y Canghellor, Sir Emyr Jones-Parry: "Rwy'n ddiolchgar iawn iddi am ei chyfraniadau positif i'r brifysgol dros y blynyddoedd ... ar ran cyngor y brifysgol, dwi'n dymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol.

"Fe ddangosodd yn gyflym ei gallu i ddygymod â newidiadau cyflym yr oedd eu hangen yn wyneb amgylchfyd allanol anodd.

"Roedd hyn yn cynnwys ailstrwythuro gwethrediadau academaidd fel bod modd datganoli arweinyddiaeth a chyfrifoldeb ariannol ..."

Gwadu camymddwyn

Fe gafodd ei phenodi yn Awst 2011 ond mae'r brifysgol wedi wynebu honiadau o fwlio.

Mae hi wedi gwadu unrhyw gamymddwyn.

O fewn llai na dwy flynedd ers ei phenodi roedd honiadau bod 11 aelod o staff wedi'u gwahardd ac 13 wedi'u diswyddo.

Fe ddywedodd Undeb Prifysgolion a Cholegau (UPC) Aberystwyth bod rheolwyr yn ymddwyn fel unbeniaid.

Roedd honiadau fod gweithwyr yno wedi'u gwahardd o'u gwaith am faterion dibwys ac nad oedd unrhyw ymdeimlad o gyfiawnder yn y modd y bu'r sefydliad yn delio â materion disgyblu.

Bydd cyngor y brifysgol yn penodi Is-Ganghellor dros dro ar gyfer y gwaith mewnol o 1 Chwefror 2016 ymlaen ac yn sefydlu pwyllgor penodi i chwilio am Is-Ganghellor newydd o 1 Awst yn 2016 ymlaen neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.