Rheolwyr prifysgol 'fel unbeniaid'

  • Cyhoeddwyd
Aberystwyth University
Disgrifiad o’r llun,

Honnir bod aelodau o staff y brifysgol wedi cael eu disgyblu dros faterion dibwys

Mae yna honiadau o fwlio yn un o brifysgolion mwya' Cymru, yn ôl un o'r prif undebau athrawon.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, mae Llywydd Undeb Prifysgolion a Cholegau (UPC) Aberystwyth wedi dweud fod rheolwyr yn ymddwyn fel unbeniaid ac mae staff yn pryderu am eu swyddi.

Mae yna hefyd honiadau fod gweithwyr yn y brifysgol wedi'u gwahardd o'u gwaith am faterion dibwys ac nad oes unrhyw synnwyr o gyfiawnder yn y modd mae'r sefydliad yn delio â materion disgyblu.

Honnir fod yna 11 aelod o staff wedi cael eu hatal o'u gwaith ac 13 wedi'u diswyddo ers i'r Is-ganghellor newydd, April McMahon, ddechrau ar ei swydd ym mis Awst 2011.

Dywedodd Martin Wilding, Llywydd UPC Aberystwyth fod "pobl yn llythrennol yn edrych dros eu hysgwyddau" a bod staff yn pryderu am eu swyddi. Mae hefyd yn honni fod yna "deimlad ein bod yn cael ein gwylio'n feunyddiol".

'Gormesol'

Wrth gyfeirio at honiadau fod rhai wedi'u hatal o'u gwaith, dywedodd Mr Wilding "nad oes synnwyr o unrhyw broses benodol, dim synnwyr o gyfiawnder, rwy'n credu fod 'na wrthdaro rhwng rheolwyr a staff sydd fel rhyw fath o berthynas ormesol.

"Os yw pobl yn siarad mas, maen nhw'n ofni y byddan nhw'n cael eu cosbi ac mae 'na sibrydion am bobl yn diflannu ac mae'n swnion fel talaith yn Ne America pan rydych chi'n dweud fod pobl wedi diflannu fel petai."

Mae hefyd yn honni fod "pobl bron o hyd yn mynd i gyfarfodydd ar eu pennau eu hunain, a'u bod yn cael eu hatal a'u hanfon o'r campws".

Mae BBC Cymru wedi siarad ag aelodau o staff presennol a chyn weithwyr sy'n dweud nad ydyn nhw'n gallu siarad am eu profiadau'n gyhoeddus oherwydd pryderon am y canlyniadau. Ond maent wedi honni eu bod yn cael eu bwlio a'u dychryn gan uwch reolwyr.

Mae dau o'r achosion honedig amlycaf o bobl yn cael eu hatal o'u gwaith yn ymwneud â dau swyddog o Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth - y cyfarwyddwr Alan Hewson a'r Rheolwr Gweithrediadau Auriel Martin.

Protest

Fis diwetha' bu aelodau o'r cyhoedd yn protestio i gefnogi'r ddau trwy atal traffig ar gampws y brifysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Cynhaliwyd protest fis diwetha' i gefnogi dau aelod o staff

Y diwrnod blaenorol cyhoeddwyd y byddai Mr Hewson yn ymddeol. Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall fod Mr Martin yn wynebu ymchwiliad disgyblu mewnol, a ddylai gael ei gwblhau'r wythnos hon. Dyw'r brifysgol ddim wedi cadarnhau hyn gan ddweud nad ydynt yn gallu gwneud sylw ar faterion yn ymwneud ag aelodau unigol o staff.

Yn ôl y cynghorydd lleol Sue Jones Davies, mae'r berthynas rhwng y brifysgol a'r dre' wedi mynd yn anodd: "Pobl yn clywed pob mathau o storïau ac yn methu cadarnhau beth yn union fydd yn digwydd i'r ganolfan gelfyddydau neu hyd yn oed y brifysgol yn gyffredinol.

"Byddai pobl yn hoffi ychydig mwy o dryloywder am y newidiadau a'r cyfeiriad mae'r brifysgol yn mynd ynddo...mae'n rhwystredig iawn i fethu â chael gwybod mwy...mae'n sefyllfa hurt."

'Dinistrio'

Yr wythnos ddiwetha' cyhoeddodd y canwr bydenwog Peter Karrie y byddai'n ildio ei gymrodoriaeth a gyflwynwyd iddo gan Brifysgol Aberystwyth yn 2007. Mewn llythyr at April McMahon, dywedodd Mr Karrie ei fod yn gweithredu "mewn protest i'r ffaith ei bod yn ymddangos eich bod yn benderfynol o ddinistrio un o ganolfannau celfyddydau gorau'r wlad. Alla' i ddim cynrychioli anniolchgarwch a chreulondeb."

Nid Mr Karrie yw'r cyntaf. Roedd yr economegydd John Cable wedi ildio ei gadair athro Emeritws yn y brifysgol gan ddweud fod y rheolwyr yn "anghyfartal ac ymosodol", tra bod y bardd Owen Sheers wedi gwrthod cynnig gan y brifysgol i fod yn gymrawd anrhydeddus oherwyd "pryderon dros reolaeth o'r ganolfan gelfyddydau yn y dyfodol".

Fel rhan o strategaeth newydd i'r ganolfan, mae'r brifysgol yn dweud eu bod eisiau gwneud mwy o ddefnydd ohoni ar gyfer gwaith ac ymchwil academaidd. Ond maent yn mynnu na fydd hyn yn effeithio ar ddefnydd y cyhoedd o'r safle.

Mewn ymateb i'r honiadau am fwlio a brawychu, mae Prifysgol Aberystwyth yn dweud eu bod "wedi ei synnu gan y cyhuddiadau a wnaed gan yr UPC ac sydd wedi eu cyflwyno i'r Brifysgol gan BBC Cymru.

"Rydym yn cael cyfarfodydd rheolaidd ag undebau yn y Brifysgol, gan gynnwys yr UPC, a chynhaliwyd y mwyaf diweddar ohonynt yr wythnos diwethaf, ac ni chodwyd y materion hyn gyda ni ac nid yw'r UPC wedi ymateb i'n cynigion i gysylltu â nhw ar y materion a godwyd yn y cyfryngau hyd heddiw...Mae croeso bob amser i'r UPC ddod â'u pryderon a'u tystiolaeth at y bwrdd, yna byddwn yn trafod gyda'n gilydd."

Ychwanega'r datganiad: "Mae dangosyddion clir bod y Brifysgol yn cynnig amgylchedd gwaith deniadol fel yr adlewyrchir yn y diddordeb sylweddol sydd i weithio yma...

"Mae'r Brifysgol wedi cyflwyno system newydd Adolygu Datblygu Perfformiad Staff gyda chefnogaeth lawn yr undebau, gan gynnwys yr UPC."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol