Heriau darlledu mewn iaith leiafrifol
- Cyhoeddwyd
Wedi i Lywodraeth y DU gwtogi eu cyfraniad i gyllid S4C, mae'r sianel yn wynebu heriau ariannol.
Ond nid y sianel Gymraeg yw'r unig ddarlledwr fydd yn gweld gostyngiad yn eu cyllid yn y blynyddoedd nesaf.
Bydd rhaid i'r sianel Aeleg, BBC Alba, oroesi heb gyllid o San Steffan, wedi i'r llywodraeth benderfynu peidio adnewyddu grant o £1m y flwyddyn.
Ond sut mae sefyllfa'r darlledwyr lleiafrifol yn y DU yn cymharu â gweddill Ewrop?
Bu BBC Cymru Fyw'n siarad efo'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, cyfarwyddwr Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Catalaneg
Yng nghymunedau ymreolaethol Sbaen, mae darlledu wedi'i ddatganoli yn rhannol - sy'n golygu fod gan lywodraethau cenhedloedd fel Catalonia a Gwlad y Basg yr hawl i sefydlu eu darlledwyr eu hunain.
Mae hyn yn wahaniaeth amlwg, yn ôl yr Athro Jones.
Yng Nghatalonia, mae'r llywodraeth ddatganoledig yn ariannu darlledwr cyhoeddus, y CCMA, sydd â chyllid o 343m Ewro ac yn rhedeg chwe sianel deledu yn yr iaith leol.
Ar ben hynny, mae cyfryngau preifat Catalaneg-eu-hiaith yn ffynnu gan fod "mwy o fuddsoddiad cyhoeddus ar draws pob maes wedi creu cyd-destun ble mae cyfryngau preifat yn gallu byw," yn ôl yr Athro Jones.
Ond efallai bod cymharu â'r Gatalaneg, sydd gan dros 9 miliwn o siaradwyr, ychydig yn optimistaidd. Beth am y Fasgeg, sy'n cael ei siarad gan 714,000 o bobl?
Basgeg
Mae tipyn mwy o blwraliaeth yn y cyfryngau Basgaidd na sydd yng Nghymru, meddai'r Athro Jones.
Mae dwy sianel mewn Basgeg - un gyffredinol gafodd ei sefydlu yn 1982, ac un wedi'i hanelu at blant gafodd ei sefydlu yn 2008, yr un cyfnod ag roedd sôn am sefydlu sianel Gymraeg i blant.
Yn ogystal, mae gan y Basgiaid ddwy orsaf radio genedlaethol yn darlledu mewn Basgeg yn unig, ac ystod eang o gyfryngau ysgrifenedig - papur dyddiol o'r enw Berria a nifer o gyhoeddiadau tebyg i bapurau bro sydd wedi dod at ei gilydd i wasanaethu ardaloedd ehangach ar bapur, radio, teledu a'r we.
Yn ôl yr Athro Jones, mae maint y buddsoddiad cyhoeddus yn allweddol i lwyddiant y wasg Fasgaidd.
"Mae mwy o fuddsoddiad wedi bod yn natblygiad y wasg leol," meddai. "Mae cyllideb hyrwyddo'r Fasgeg cymaint mwy na'r Gymraeg - tua 40 miliwn ewro'r flwyddyn o gymharu â thua £10m i'r Gymraeg.
"Dros y blynyddoedd - dyma'r pedwerydd degawd o fuddsoddiad yn yr iaith - mae'r gwahaniaeth yn dangos."
Valencia
Ond dydi'r sefyllfa ddim yn fêl i gyd yn Sbaen. Yng nghymuned ymreolaethol Valencia, i'r de o Gatalonia, maen nhw'n siarad valencià, tafodiaith Gatalanaidd.
Ddwy flynedd yn ôl, fe gafodd y darlledwr yn y dafodiaith honno, RTVV, ei gau gan lywodraeth geidwadol y rhanbarthol er mwyn arbed arian.
Cafodd 1,700 aelod o staff eu diswyddo a'u gyrru allan o'r stiwdios gan yr heddlu.
"Rhan o'r broblem yw fod y rhanbarthau yn Sbaen ddim yn cyfateb i diriogaeth hanesyddol ieithoedd," meddai'r Athro Jones, gan gyfeirio at y ffaith fod Catalaneg a'i thafodieithoedd yn cael ei siarad yn Valencia, yn yr Ynysoedd Balearaidd ac mewn rhan o Aragon, tu hwnt i ffiniau Catalonia.
Yng nghyfnod darlledu analog, roedd llywodraeth Catalonia'n rhoi mastiau ar ei ffiniau er mwyn gwasanaethu siaradwyr yr iaith yn y rhanbarthau cyfagos, meddai.
Ond nawr mae rhanbarthau'n gallu blocio signalau digidol i rwystro dylanwad sianeli Catalonia, ac i amddiffyn incwm hysbysebu eu darlledwyr eu hunain.
Ar y funud, felly, ychydig o siaradwyr valencià sy'n gallu gwylio teledu yn un o'r tafodieithoedd Catalaneg.
Ond efallai bod gobaith iddyn nhw - mae'r glymblaid sy'n rheoli'r rhanbarth ers etholiadau Mai 2015 wedi addo ail-agor RTVV, i ddarparu teledu yn y dafodiaith unwaith eto.