Addysg Gymraeg: Galw ar y llywodraeth i wneud mwy
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid mynd i'r afael â gwendidau mewn addysg cyfrwng Cymraeg, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi bod yn archwilio polisïau sy'n eu llunio gan awdurdodau lleol i roi hwb i addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd.
Yn ôl y pwyllgor, mae'n "rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i fynd i'r afael â'r gwendidau yn y strategaethau i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg."
Niferoedd yn gostwng mewn cadarnleoedd
Mae'r pwyllgor wedi canfod fod nifer y plant sy'n dysgu Cymraeg yn gostwng mewn ardaloedd sydd â niferoedd uchel yn siarad Cymraeg, yn cynnwys Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae ardaloedd eraill, megis Powys, Castell-nedd Port Talbot a Sir Fôn, wedi gweld cynnydd yn y ffigurau.
Yn genedlaethol, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud eu bod wedi methu cyrraedd eu targedau addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer 2015, ac mae hyn yn debygol o ddigwydd eto yn 2020.
Yn ôl y Pwyllgor, rhan o'r broblem yw'r diffyg atebolrwydd a chydgysylltu rhwng awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.
Mae Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru yn pennu'r strategaethau a'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am drosi'r strategaeth honno yn ganlyniadau pendant drwy eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Dywed y Pwyllgor fod y dystiolaeth yn awgrymu nad yw Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cydweithio ddigon i gyrraedd y targedau hynny.
Llywodraeth Cymru i ymyrryd
Mae'r Pwyllgor hefyd am i Lywodraeth Cymru ymyrryd lle mae'n teimlo bod awdurdod lleol yn methu â chyflawni eu cynlluniau.
"Mae'r Pwyllgor yn cefnogi'n llawn bwriadau Llywodraeth Cymru y tu ôl i'w strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg," meddai David Rees AC, Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
"Ond rydym yn teimlo bod gwendidau sylweddol rhwng y strategaeth ar lefel genedlaethol a'r cynlluniau i gyflawni ar lawr gwlad.
"Mae'r ffaith bod targedau yn cael eu methu, a bod niferoedd yn gostwng mewn ardaloedd lle y byddech efallai yn disgwyl eu gweld yn cynyddu, yn fater sy'n peri pryder.
Mae'r Pwyllgor yn gwneud 17 o argymhellion yn ei adroddiad.
Comisiynydd yn croesawu
Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad, fe groesawodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws ganlyniadau gwaith ymchwil y Pwyllgor.
Dywedodd: "Fe ddangosodd canlyniadau Arolwg Defnydd Iaith a gyhoeddwyd ar y cyd rhwng y Comisiynydd a Llywodraeth Cymru yn ddiweddar mai'r gyfundrefn addysg yw prif ffynhonnell siaradwyr Cymraeg heddiw.
"Mae'n hollbwysig, felly, bod unrhyw ddiffygion yn y cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yn cael eu datrys fel bod ein hysgolion yn gallu cynhyrchu siaradwyr Cymraeg hyderus ym mhob cwr o Gymru."
Ychwanegodd: "Yn y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a gyflwynais i a'm swyddogion i'r pwyllgor, fe bwysleisiais mor bwysig yw hi i brif-ffrydio materion yn ymwneud ag addysg Gymraeg i bolisïau a strategaethau eraill Llywodraeth Cymru - materion fel polisïau cludiant a strategaethau anghenion dysgu ychwanegol er enghraifft.
"Fe wnaethom ddatgan hefyd y dylai'r Llywodraeth wneud mwy i egluro i awdurdodau lleol beth mae disgwyl iddynt ei wneud wrth hyrwyddo twf addysg Gymraeg. Rydym am weld y Gweinidog Addysg yn defnyddio ei bwerau statudol i ymyrryd pan fydd awdurdodau lleol yn methu â chyflawni cynlluniau strategol."