Arweinydd Cymreig Reform UK 'ddim yn bwysig' i'r etholiad

Llŷr Powell
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llŷr Powell bod rhaid "edrych ar popeth" i daclo rhestrau aros y gwasanaeth iechyd

  • Cyhoeddwyd

Dydy cael arweinydd i blaid Reform UK yng Nghymru ddim yn bwysig ar gyfer etholiad Senedd Cymru fis Mai nesaf, yn ôl aelod blaenllaw o'r blaid.

Dywedodd cyn-bennaeth cyfathrebu'r blaid yng Nghymru, Llŷr Powell, mai ethol Senedd yw'r nod, yn hytrach nag arlywydd, ac y byddai'r blaid yn dewis arweinydd yn ystod yr ymgyrch.

Fe wnaeth Mr Powell hefyd wrthod diystyru troi at y sector breifat i daclo rhestrau aros iechyd, ond dywedodd nad oedd gwarchod diwylliant Cymraeg yng nghadarnleoedd yr iaith yn flaenoriaeth.

Ar drothwy blwyddyn hollbwysig, bu'n siarad â Bethan Rhys Roberts o raglen Newyddion S4C yn yr ail mewn cyfres o gyfweliadau gydag aelodau blaenllaw y prif bleidiau gwleidyddol.

Mae cwestiynau ynglŷn â phwy fydd yn arwain plaid Reform UK yng Nghymru yn parhau.

Bydd y broses o ethol arweinydd yn digwydd yn ystod yr ymgyrch y flwyddyn nesaf, derbyniodd Mr Powell.

"Ni'n edrych 'mlaen i weld pwy sy'n mynd i ddod trwyddo. Mae rhaid i'r arweinydd sefyll yn yr etholiad yn gyntaf.

"Mae'r broses yn agor i bawb ac ar ôl y broses honno ni am weld pwy fydd yr arweinydd."

Ychwanegodd: "Ar y funud 'di o ddim yn rhywbeth ni'n edrych ar a ni'n gweld yn bwysig."

Dywedodd Mr Powell y bydd y blaid yn barod am etholiad y Senedd fis Mai nesaf a bod mwy o fanylion ar bolisïau ac ymgeiswyr i ddod.

"Ni wedi adeiladu beth o'n ni eisiau ar y ground yma," meddai.

"Mae dros 16,000 aelodau'r blaid a ni'n gobeithio nawr diwedd y blwyddyn ni mynd i fod gyda'r enwau o bwy fydd yn sefyll i ni a hefyd y polisïau."

Laura Anne JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Laura Anne Jones AS adael y Ceidwadwyr i ymuno â Reform yn ddiweddar

Dywedodd Mr Powell bod y gwasanaeth iechyd yn un o'r pynciau oedd yn amlwg yn poeni etholwyr Cymru.

Fe wnaeth wrthod diystyru a fyddai Reform UK yn troi at y sector breifat i daclo rhestrau aros, gan ddweud bod rhaid "edrych ar popeth" i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

Ond wrth ei holi ymhellach ynghylch preifateiddio, dywedodd: "'Sa i'n siŵr yn fanna ar y funud."

Ychwanegodd bod angen denu mwy o bobl i'r sector iechyd, a bod y blaid am edrych ar "ble ni'n gwastraffu arian" i allu ariannu mwy o feddygon yng Nghymru.

"Yn Lloegr ni 'di ffeindio lot o arian a ni'n gallu 'neud o fan hyn," meddai.

Mae mewnfudo yn bwnc amlwg i gefnogwyr Reform UK, gyda'r blaid yn dweud eu bod eisiau "gwarchod hunaniaeth Prydain a chymunedau".

Ond dywedodd Mr Powell nad yw gwarchod diwylliant Cymraeg yn uchel ar eu hagenda, ac nad yw mewnfudo yng nghadarnleoedd y Gymraeg, fel Pen Llŷn, yn broblem.

"Y polisïau mewnfudo ni wedi dod mas yn ddiweddar, fi'n credu bod pobl yn glir beth ni'n dweud," meddai.

Wrth droi at nifer yr aelodau yn Senedd Cymru, sydd ar fin ehangu i 90 aelod, barn Reform UK yw nad oes angen y cynnydd.

Dywedodd Mr Powell nad oedd o blaid ehangu'r Senedd ac y byddai'n "licio gweld y rhifau yn mynd i lawr".

Ond ychwanegodd nad yw'n "siŵr be' mae'r dynamics am fynd i fod".

Bydd Newyddion S4C yn cyfweld cynrychiolwyr gweddill y pleidiau dros yr wythnosau nesaf.

Maen nhw eisoes wedi siarad ag arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig