Cyflenwad dŵr wedi'i adfer ar ôl i bibell dorri yn y gogledd

Llun drone o'r safleFfynhonnell y llun, Dŵr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dŵr Cymru bod y gwaith o ail-lenwi'r system wedi'i gwblhau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwaith o ail-lenwi'r system ar ôl i bibell ddŵr fyrstio yn y gogledd wedi'i gwblhau.

Mae Dŵr Cymru'n dweud eu bod wedi llwyddo i adfer y cyflenwad i bawb yn yr ardaloedd yn Sir y Fflint a gafodd eu heffeithio.

Fe ychwanegon nhw ei fod yn arferol i gwsmeriaid brofi rhywfaint o newid lliw yn eu dŵr neu bwysedd isel yn ogystal â cyflenwad ysbeidiol ond y dylai hynny fod dros dro yn unig.

Mae mannau ble mae modd cael poteli dŵr yn parhau ar agor.

Safle'r byrstFfynhonnell y llun, Dŵr Cymru

Dechreuodd y broblem yn ardal Brychdyn, Sir y Fflint dros wythnos yn ôl, ac er i'r broblem gael ei thrwsio dros dro, dychwelodd y nam.

Ar un adeg roedd degau o filoedd o gwsmeriaid heb gyflenwad.

Mae wedi achosi cryn drafferth i'r bobl leol a rhai digwyddiadau.

Cafodd dwy gêm Cymru Premier - Cei Connah yn erbyn Y Bala nos Wener a'r gêm ddydd Sadwrn rhwng Y Fflint a Hwlffordd - eu gohirio.

Yn ogystal, fe fynegodd sŵ yn Sir y Fflint bryder gan fod ganddyn nhw 300 o anifeiliaid a dim cyflenwad dŵr.

Dosbarthu dwr

Dywedodd Dŵr Cymru fod y gwaith o ail-lenwi'r rhwydwaith yn gymhleth ac anodd gan fod angen osgoi pibelli eraill yn byrstio yn y broses.

Mae'r rhwydwaith yn ymestyn dros 500 o gilometrau.

Mi fydd cwsmeriaid yn derbyn iawndal o £30 am bob 12 awr y maen nhw wedi bod heb gyflenwad dŵr, gyda busnesau yn cael £75.

Bydd busnesau hefyd yn gallu hawlio am unrhyw golled incwm.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n annog pobl i sicrhau eu bod yn yfed digon o ddŵr yn y tywydd cynnes ar hyn o bryd, ac i gadw golwg ar bobl fregus yn eu cymunedau.

Llun o fuwch â chyrn a poteli dŵr gwag ar y llawr o'i flaenFfynhonnell y llun, Greenacres
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 300 o anifeiliaid ym Mharc Anifeiliaid Greenacres a does dim cyflenwad dŵr yno

Fe ddywedodd perchennog sŵ teuluol yn Sir y Fflint ddydd Sadwrn ei bod yn hynod bryderus.

"Mae gennym ni dros 300 o anifeiliaid yma, o adar i gamelod a gwartheg a does ganddon ni ddim unrhyw syniad pryd y bydd y dŵr yn dychwelyd," meddai Beth Hall o Barc Anifeiliaid Greenacres ym Mancot.

"Mae rhai o'r anifeiliaid yn yfed llawer iawn o litrau o ddŵr, ac rydym yn mynd o amgylch y safle gyda thua 60 o boteli plastig i ail-lenwi popeth.

"Mae'r gymuned wir wedi dod i'r adwy ac mae pobl wedi dod â photeli a helpu gymaint ag y gallan nhw," ychwanegodd Ms Hall.

Dywedodd fod gan y parc anifeiliaid gerbyd bach i gludo'r dŵr o amgylch y safle.

"Mae gennym ni gymaint o boteli nawr a bydd yn rhaid i ni wneud rhywbeth gyda'r holl blastig yma".

Brychdyn

Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru, fod natur y digwyddiad wedi gwneud y gwaith trwsio yn heriol.

Mae'r bibell yn "30 modfedd o ddiamedr a dros bum metr i lawr mewn tir sy'n anodd iawn", meddai, sydd wedi creu anawsterau wrth sicrhau diogelwch gweithwyr.

Ar ôl i'r gwaith trwsio cyntaf fethu, dywedodd Mr Perry fod y cwmni wedi ceisio monitro'r gollyngiad dŵr fel nad oedd cwsmeriaid heb gyflenwadau dros gyfnod o dywydd poeth.

Ond dywedodd fod y gollyngiad wedi gwaethygu, oedd yn golygu bod rhaid gwneud gwaith trwsio brys, gan effeithio ar gyflenwadau.

Ymddiheurodd am yr anghyfleustra, a dywedodd fod staff yn "gweithio rownd y cloc" i drwsio'r broblem, ac yn "gwneud ein gorau" i sicrhau cyflenwadau amgen i gwsmeriaid.

Ychwanegodd Heulyn Davies o Dŵr Cymru yn ddiweddarach ddydd Gwener bod disgwyl i'r "rhan fwyaf" gael cyflenwadau yn ôl ddydd Sadwrn.

"Mae hon yn bibell enfawr sy'n gwasanaethu hyd at 40,000 o gwsmeriaid. Mae'r ffaith bod ni wedi cymryd cyn hired oherwydd bod y bibell pum metr o dan y ddaear ac wedi'i amgylchynu gan lawer o bibellau eraill - pibellau nwy, pibellau trydan ac yn y blaen.

"Felly mae'n rhaid i ni weithredu'n ofalus a sicrhau bod lles a diogelwch wrth gwrs o'r pwys mwyaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig