Disgwyl ail gyfnod o dywydd poeth yr wythnos hon i Gymru

- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Gymru gael ail gyfnod o dywydd poeth o fewn wythnos gyda'r tymheredd yn cyrraedd hyd at 29C yng Nghaerdydd, yn ôl rhagolygon.
Mae disgwyl i'r tywydd poeth bara tan y penwythnos er y bydd yn oerach yng ngogledd Cymru ac mewn ardaloedd arfordirol.
Fe ddaw wrth i Gyfoeth Naturiol Cymru ddatgan amodau sychder yn ne ddwyrain Cymru yn dilyn y chwe mis sychaf mewn bron i 50 mlynedd.
Mae Dŵr Cymru wedi dweud nad oes unrhyw gynlluniau i osod cyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr, ond mae pobl yn cael eu hannog i fod yn ofalus yn y tymereddau uchel.

Mae Isla Arandell am i bobl ddefnyddio'r ganolfan gymunedol fel "lle oer" i gwrdd ag eraill
Mae rheolwr canolfan gymunedol TogetherWorks Caldicot yn Sir Fynwy, Isla Arandell, am i bobl ddefnyddio'r ganolfan fel "lle oer" i gwrdd ag eraill i ffwrdd o fannau cynnes a chlos yn eu cartrefi.
Dywedodd ei fod wedi dod o'r syniad o gynnig man cynnes yn y gaeaf: "Rydym yn edrych ar fod yn fath o le oer lle gall pobl ddod i mewn, ymlacio.
"Mae gennym ardd gymunedol hyfryd y gall pobl eistedd ynddi," ychwanegodd.
Mae mwy na 100 o ffaniau trydan, gafodd eu rhoi i'r ganolfan gan Asiantaeth Ynni de ddwyrain Cymru, wedi cael eu dosbarthu yno.
"Maen nhw [y ffaniau] wedi bod yn boblogaidd iawn. Dwi newydd gael dau berson yn dod i mewn y bore 'ma ond yn anffodus dim ond rhai llaw sydd gennym ar ôl - efallai y byddwn ni'n gallu cael mwy," meddai.

"Cau'r ffenestri, hyd yn oed os yw hi'n wirioneddol boeth yw'r peth i'w wneud," meddai John Hubbard
Mae John Hubbard, 72, sy'n mynychu clwb brecwast y dynion, yn dweud ei fod yn gwneud ymdrech i gadw ei gartref yn oer.
"Mae'n groes i'r hyn rydyn ni fel arfer yn ei wneud yn y wlad hon, ond cau'r ffenestri, hyd yn oed os yw hi'n wirioneddol boeth yw'r peth i'w wneud," meddai.
"Yn anffodus, ein hystafell orau yw ein lolfa, ac mae ein hystafell wely yn wynebu'r de, felly rydyn ni'n cael yr haul yn llawn."

"Rwy'n mynd allan bob dydd am dro, ond os yw'n rhy boeth rwy'n cerdded o gwmpas yr archfarchnadoedd," meddai Tony Knight
Mae Tony Knight, 81, yn hoffi'r tywydd poeth "cyn belled nad yw'n rhy boeth", meddai.
"Rwy'n mynd allan bob dydd am dro, ond os yw'n rhy boeth rwy'n cerdded o gwmpas yr archfarchnadoedd ac mae'n braf," ychwanegodd.
Yn aml, mae gan breswylwyr cartrefi gofal lai o ddewis o ran ble y gallan nhw fynd i gadw'n oer.
Yng nghartref gofal Pen-Y-Bont yn Abertyleri ym Mlaenau Gwent, maen nhw'n ceisio cadw mannau cymunedol yn oer drwy ddefnyddio system aer dymheru.
Mae Luke Griffiths o'r cartref yn dweud eu bod yn sicrhau bod preswylwyr yn cael yfed digon hefyd.
"Rydym yn meddwl ymlaen llaw, rydym yn monitro faint o hylif mae ein preswylwyr yn ei gymryd, rydym yn gosod targedau hylif ar gyfer pob preswylydd, rydym yn annog seibiannau rheolaidd i aelodau ein staff hefyd ac rydym yn sicrhau bod yr awyru'n gywir yn yr adeilad."
'Nid yw hyn yn normal i ni'
Dywedodd John Greenland, 65, sy'n breswylydd yn y cartref, ei fod yn cael trafferth yn y tywydd cynnes.
"Dydw i ddim yn ei hoffi. Os dwi'n boeth, dwi'n ceisio oeri lawr 'chydig. Dwi'n cael llawer o ddiodydd. Dwi'n mynd yn boeth iawn ac yn chwysu fel unrhyw beth."
Dydy Martha Lowman, 80 oed, ddim yn awyddus i weld rhagolygon o dywydd poeth.
"Dydw i ddim yn awyddus iawn amdano, ond allwn ni ddim gwneud llawer amdano mewn gwirionedd.
"Dwi'n hoffi aros yn y cysgod ac yfed digon o hylifau. Mae'n flinedig mewn gwirionedd.
"Mae'n eithaf anarferol i ni gael tywydd mor boeth. Pan oeddwn i'n byw yn Awstralia, roedd yn normal allan yna ond nid yw hyn yn normal i ni."

Dywedodd Sabrina Lee, meteorolegydd y BBC, y gallai fod yn rhaid i ni ddod i arfer â'r math yma o dywydd yn amlach.
"Rydym yn disgwyl i'n hafau fod yn boethach ac yn sychach. Rydym yn disgwyl i donnau gwres ddod yn amlach ac yn fwy dwys a bydd mwy o bryderon yn y dyfodol o ran tanau gwyllt a sychder."
Ychwanegodd efallai y bydd angen i ni newid sut rydym yn cyflawni tasgau rydym yn eu cymryd yn ganiataol.
"Rwy'n credu y bydd tôn fy rhagolygon yn dod yn fwy difrifol. Rydym yn disgwyl y bydd yn rhaid i ni addasu yn y blynyddoedd i ddod, felly efallai y bydd yn rhaid newid ein harferion dyddiol.
"Er enghraifft, pan fyddwn yn mynd â'r ci am dro, neu os ydych chi'n gweithio yn yr awyr agored, mae'n rhaid i chi addasu'ch amserlen i osgoi rhywfaint o'r gwres."

Cyngor Celyn-Mai Clement, 23, o Ambiwlans Sant Ioan, yw "gwnewch yn siŵr eich bod chi'n yfed digon o ddŵr i osgoi dadhydradu, gwisgwch het a sbectol haul hefyd i osgoi niwed i'ch llygaid"
I'r rhai sy'n bwriadu bod allan yn y tywydd cynnes dros y penwythnos, cyngor Celyn-Mai Clement, 23, o Ambiwlans Sant Ioan, yw "gwnewch yn siŵr eich bod chi'n yfed digon o ddŵr i osgoi dadhydradu, gwisgwch het a sbectol haul hefyd i osgoi niwed i'ch llygaid".
"Rydym yn eich cynghori i orchuddio gan ddefnyddio dillad ysgafn rhydd ond y cyngor gorau yw defnyddio eli haul."
Chwe mis sychaf ers 1976
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru mai dyma'r cyfnod chwe mis sychaf ers 1976, a dyna pam mae Rhian Thomas, o CNC, yn dweud bod y trothwy wedi'i gyrraedd i roi de ddwyrain Cymru mewn amodau sychder.
"Mae diffyg glaw sylweddol wedi effeithio ar yr amgylchedd, ac rydym yn derbyn adroddiadau am lif isel a gwelyau afonydd sych mewn rhai lleoliadau, lefelau dŵr daear isel yn ogystal ag adroddiadau am bysgod mewn trafferthion ac algâu."
Er hynny, dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru nad oedd prinder dŵr yfed ar hyn o bryd.
"Nid oes gennym unrhyw bryderon ynghylch lefelau cronfeydd dŵr ar draws ein hardal weithredu, gyda'r rhan fwyaf ar lefelau sy'n agos at yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl amser yma o'r flwyddyn.
"Rydym yn rheoli'r galw ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r tywydd sych o ran cadw storfa o fewn cronfeydd dŵr ein rhwydwaith, ond ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw gynlluniau i gyflwyno unrhyw waharddiadau dros dro ar ddefnydd."
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd2 Mai
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.