Arian loteri i adfer mynwent hanesyddol Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Mynedfa mynwent Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Y capel sy'n rhan o fynwent Wrecsam

Bydd cyfle i bobl ardal Wrecsam gael cipolwg ddydd Sul ar gynlluniau i adfer mynwent Fictorianaidd yn y dre'.

Mae'r Cyngor Sir wedi llwyddo i gael cymhorthdal o £1.2 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn adfer a diogelu adeiladau hanesyddol sy'n rhan o'r fynwent, ac ar gyfer gwaith gwella neu adfer y tirlun.

Fe fydd y cynlluniau yn cael eu harddangos yn y fynwent tan 10 Ionawr.

Mae'r fynwent, adeilad rhestredig gradd II ar gofrestr Gerddi a Pharciau Hanesyddol Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam fod y safle angen gwaith atgyweirio ar frys.

Mae Cadw, y corff sy'n goruchwylio safleoedd hanesyddol o bwys, yn dweud fod y safle o bwysigrwydd cenedlaethol yn ogystal â lleol.

Mae nifer o aelodau o gymuned Bwylaidd, a symudodd i Wrecsam wedi'r Ail Ryfel Bwyd, wedi eu claddu yn y fynwent.