Chwilio am safle Eisteddfod 2020 yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
pafiliwn newydd Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pafiliwn newydd yn cael ei ddefnyddio yn yr Eisteddfod Genedlaethol o 2016 ymlaen

Mae'r chwilio wedi dechrau am safle ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion yn 2020.

Bydd cynghorwyr yn cyfarfod ddydd Mawrth i drafod lle fydd maes y Brifwyl.

Mae adroddiad gan y cyngor yn awgrymu bod angen 140 erw i'r maes, a hynny mewn lleoliad gyda signal ffonau symudol da, ac os yn bosib, cysylltiad band eang ffibr.

Bydd y cyngor yn cysylltu gyda chynghorau trefi a chymunedau, yn gofyn am awgrymiadau am safleoedd erbyn mis Mawrth.

Bydd yr awgrymiadau yn cael eu cynnig i fwrdd yr Eisteddfod Genedlaethol, fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad.

Y gred yw bod yr eisteddfod gyntaf wedi ei chynnal yng Ngheredigion yn 1176.