£7.5m i ailwampio uned fabanod sy'n cael eu geni'n gynnar

  • Cyhoeddwyd
Hand holding a baby's footFfynhonnell y llun, Photodisk

Fe fydd 'na ragor o le i drin babanod sy'n cael eu geni'n gynnar yn ysbyty mwyaf Cymru, wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £7.5m i ailwampio'r uned.

Ar ei newydd wedd, fe fydd gan yr uned yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd le i chwech yn rhagor o gotiau.

Wedi trafferthion diweddar oherwydd heintiau, mae gobaith y bydd y datblygiad yn rhwystro problemau o'r fath.

Fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford y bydd y buddsoddiad yn galluogi i staff ddarparu'r gofal gorau posib i fabanod a'u teuluoedd.

Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn haf 2016.