'Strydoedd Cymreig': Cyngor ddim yn apelio
- Cyhoeddwyd
Bydd cynllun i adfywio "Strydoedd Cymreig" Lerpwl yn mynd yn ei flaen wedi i gyngor y ddinas roi'r gorau i her gyfreithiol.
Roedd dymchwel bron 300 o dai yn rhan o gynllun £15 miliwn fyddai'n golygu codi tai newydd yn ardal Dingle, ac fe gafodd y cynllun gymeradwyaeth pwyllgor cynllunio'r cyngor ac wedyn ymchwiliad cyhoeddus.
Ond yna fe wnaeth cyn-Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth San Steffan, Eric Pickles, wrthod y cynllun gan ddweud ei fod yn erbyn datblygu twristiaeth yn Madryn Street.
9 Madryn Street oedd man geni Ringo Starr, drymiwr y Beatles, ac er y byddai'r tŷ hwnnw'n cael ei adfer fe fyddai 271 o dai eraill yn cael eu dymchwel.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Lerpwl bod feto'r llywodraeth yn "afresymegol" ond ei fod am osgoi brwydr gyfreithiol estynedig.
Dywedodd Nina Edge o'r Welsh Streets Home Group ei bod yn croesawu'r penderfyniad, gan ychwanegu ei bod yn gobeithio fod gan Gyngor Lerpwl "weledigaeth amgen i'r ardal".
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor y bydden nhw'n dal i ymgynghori gyda thrigolion ond na ellid diystyru dymchwel tai yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2013