Ateb y Galw: Ieuan Rhys
- Cyhoeddwyd
![ieuan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/567D/production/_87214122_8b0f9d10-4872-4e74-885c-6dbc10c14762.jpg)
Yr actor Ieuan Rhys sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Phylip Harries yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cynta'?
Mynd ar wylie i garafan dadcu yn Trecco Bay ym Mhorthcawl.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Farrah Fawcett - o 'Charlie's Angels' ac Ann Jenkins o Cemetery Rd, Trecynon.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya o gywilydd arnat erioed?
Aros mewn gwesty yn Paddington, Llundain a rhuthro i gael brecwast yn y basement gan golli'r gris ola a chwmpo'n ffradach dros ford a brecwast yr hen fenyw 'ma! Yna codi o'r ford fel se dim byd 'di digwydd!!
![Buodd Ieuan yn cadw trefn yng Nghwmderi am rai blynyddoedd fel Sarjant James](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15C32/production/_87283198_bethandglynjames.jpg)
Buodd Ieuan yn cadw trefn yng Nghwmderi am rai blynyddoedd fel Sarjant James
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Yn gwylio rhywbeth fel 'Surprise! Surprise!' ar y teledu siwr o fod!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Yfed gormod o Diet Coke a ffaelu rhoi'n iPhone i gadw am eiliad!
![Ieuan rhys](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/A49D/production/_87214124_3e5c1db9-75c7-409e-ac80-939ea424de50.jpg)
Ieuan gyda Phyl Harries ar lwyfan y Noson Lawen
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Naill ai traeth Llangrannog (atgofion melys o nghyfnod fel plentyn a swog yng Ngwersyll yr Urdd) neu Bae Caerdydd (joio mynd am fwyd yna a gweld sioe yng Nghanolfan y Mileniwm).
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Cyngerdd Frank Sinatra yn Neuadd Albert Llundain neu fy mharti penblwydd yn 40 oed yng nghlwb No10 ar Mill Lane, Caerdydd.
Disgrifia dy hun mewn 3 gair.
Optimistaidd - Cyfeillgar - Moel!
![Ieuan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/140DD/production/_87214128_diamondgeezer.jpg)
Ieuan gyda Syr David Jason a Gary Whelan yn ystod ffilmio y gyfres 'Diamond Geezers'
Beth yw dy hoff lyfr?
Hunangofiannau. Darllen un Syr Tom Jones 'Over The Top And Back' ar hyn o bryd.
Pa ddilledyn fyddi di methu byw hebddo?
Yn y gaeaf, het a sgarff.
Beth oedd y ffilm ddiwetha' welaist di?
'Black Mass' gyda Johnny Depp (roedd e yn y ffilm - nage fe dda'th 'da fi!)
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Tase fe'n fyw, un o sêr y ffilmiau 'Carry On', Bernard Bresslaw!
Dy hoff albwm?
'Ryan At The Rank'. Ryan yw fy arwr a dwi'n gwybod bron pob gair ar yr albwm yma.
![Ryan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/E8EC/production/_87282695_1404dddb-69bd-468d-a852-0e92a0106227.jpg)
Un o arwyr Ieuan; Ryan Davies
Cwrs cynta', prif gwrs neu bwdin - pa un yw dy ffefryn a be' fyddi di'n ddewis?
Prif gwrs - Tagiatelle Carbonara.
Taset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod pwy fydde fe/hi?
William Roache, sy'n chwarae rhan Ken Barlow, er mwyn cael treulio diwrnod ar set 'Coronation Street'.
Pwy fydd yn ateb y galw wythnos nesa'?
Amanda Protheroe Thomas
Yn ystod y cyfnod panto bydd Ieuan yn diddanu cannoedd o blant neu'n rhuthro lan a lawr priffyrdd Prydain. Yma, mae Ieuan yn rhoi rhyw syniad i ni i gyd am ei amserlen eleni ac am flynyddoedd sydd erbyn hyn yn bell...'tu ôl iddo!'