Agor safle newydd Ysgol Gymraeg Llundain

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Gymunedol LlundainFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Safle newydd yr ysgol yng Nghanolfan Gymunedol Hanwell

Bydd disgyblion, rhieni a staff Ysgol Gymraeg Llundain yn dathlu ddydd Mercher wrth iddyn nhw gynnal agoriad swyddogol yr ysgol ar ei safle newydd.

Roedd yn rhaid i'r ysgol, sydd â 30 o ddisgyblion, adael ei safle blaenorol yn Wembley, gogledd Llundain, erbyn diwedd tymor yr haf dan gynlluniau i ehangu Ysgol Gynradd Stonebridge gerllaw.

Sefydlwyd Ysgol Gymraeg yn Llundain yn 1958 i gynnig addysg gynradd ddwyieithog i blant sydd â'u rhieni yn byw yn Llundain.

Hanes lliwgar

Mae gan y safle newydd yng Nghanolfan Gymunedol Hanwell hanes lliwgar. Roedd ar un adeg yn wyrcws, yna yn ysgol (a fynychwyd gan y diddanwr Charlie Chaplin) ac yna yn adeilad aml bwrpas, sydd wedi ei ddefnyddio ar gyfer ffilmio fideos cerddoriaeth i fandiau fel The Who a Led Zepplin, ac ar gyfer ffilmiau a rhaglenni fel Billy Elliot, Only Fools and Horses a Midsomer Murders.

Mae'r ysgol hefyd wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru eu bod am dderbyn cyllid ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Wrth siarad ar raglen Y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore dydd Mercher, dywedodd Julie Griffiths, pennaeth yr ysgol: "Mae'r paratoadau wedi eu gwneud erbyn hyn felly ni'n aros i Carwyn Jones ddod i agor yr ysgol yn swyddogol.

"Da ni wedi bod ar agor fel ysgol ers 1958 ond ym mis Medi fe symudon ni i adeilad newydd yn adeilad cymunedol Hanwell. Mae'r adeilad yn anferth felly ni'n rhan o'r adeilad mae'r ysgol wedi ei lleoli ynddo. Mae lot o bethau gwahanol yn digwydd yn yr ysgol. Mae na wersi crochenwaith i lawr llawr, neuadd judo lan lofft, neuadd badminton yma, mae meithrinfa i blant cyn oedran ysgol hefyd. Felly mae'n eithaf adeilad.

"Roedden ni'n arfer bod ar safle ysgol Stonebridge ond roedden nhw'n mynd yn dair ffrwd felly gaethon ni wybod mis Medi diwethaf fod gyda ni 10 mis i ail-leoli'r ysgol. Mae'r symud wedi bod werth ei wneud. Roedd yn sioc ac yn banic ar y pryd - pob un yn rhedeg hyd a lled Llundain yn trio ffeindio cartref newydd i ni ond roedd y symud o fudd i'r ysgol."

Disgrifiad o’r llun,

Plant Ysgol Gymraeg Llundain yn ystod dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn San Steffan y llynedd

'Croeso rhyfeddol'

Wrth siarad am y datblygiad, dywedodd Sioned Wiliam, sy'n llywodraethwr ar yr ysgol, wrth raglen Y Post Cyntaf fod newid safle yn golygu bod yr ysgol yn cael safle mwy sefydlog ar ôl blynyddoedd hapus iawn yn Harlsden:

"Mae Hanwell wedi estyn croeso rhyfeddol i ni ac mae'r adeilad yn hyfryd. Hen wyrcws yw e ond mae'r adeiladau yna mor sylweddol maen nhw'n arbennig o brydferth erbyn hyn.

"Ni wedi meddwl a phendroni - roedd 'na son am symud i'r ganolfan yn Grays Inn Road ond y gwir yw mae'n anodd bod yn unrhyw le sy'n siwtio pawb, ag achos bod cymaint o Gymry sy'n byw yn Ealing ac yn mynd i'r capel yno roedd hwn yn teimlo fel cartref fyddai'n caniatau'r ysgol i ehangu eto."

Wrth ymateb i feirniadaeth ddiweddar fod yr ysgol yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, ychwanegodd Sioned William: "Y peth pwysig i'w nodi yw ein bod ni'n cael ein arian o'r gronfa hyrwyddo'r Gymraeg yn hytrach na'r gronfa addysg. Hyn sy'n bwysig i'w nodi ar hyn o bryd yw mae grant yw e - dyw e ddim yn ariannu'r ysgol yn llwyr - mae'n rhaid i rieni godi gweddill yr arian eu hunain. Nid ysgol fonedd mohoni - yn sicr dim o ran awyrgylch.

"Mae rhai rhieni'n gwneud cyfraniad ariannol ond does neb yn cael eu troi i ffwrdd achos ysgol wladwriaethol ydi hi o ran naws."