81 yn euog o dwyll yswiriant ceir

  • Cyhoeddwyd
Llys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr achos yn Llys y Goron Caerdydd

Mae pump o bobl wedi eu cael yn euog o dwyll yn ymwneud â cheisiadau yswiriant ceir.

Yn Llys y Goron Caerdydd roedd saith o bobl wedi gwadu cyhuddiad o gynllwynio i dwyllo wedi chwe chais yswiriant gwerth £144,000 rhwng 2009 a 2011.

Fe gafwyd dau arall yn ddieuog.

Mae diwedd yr achos yn golygu bod 81 o Sir Caerffili, Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd yn euog o fod yn rhan o gynllwyn "damweiniau am arian," cynllwyn gafodd ei ddisgrifio fel y rhwydwaith mwyaf o'i fath yn y DU.

£1m

Dywedodd yr heddlu fod y grŵp wedi hawlio bron i £1m o arian yswiriant wedi damweiniau ceir oedd wedi eu ffugio, ac mae'r Biwro Twyll Yswiriant wedi dweud bod y fath dwyll yn costio cannoedd o filiynau o bunoedd i yrwyr yn flynyddol.

Canolbwynt y twyll oedd garej y teulu Yandell ym Mhengam ger y Coed Duon, Sir Caerffili, Easyfix a St David's Crash Repair. Mae'r garej yn nwylo perchennog newydd erbyn hyn.

Disgrifiad,

DCI Richard Williams o Heddlu Gwent sy'n disgrifio sut oedd y criw yn gwneud arian o'r damweiniau

Dangosodd lluniau cylch cyfyng oedd wedi eu casglu gan Heddlu Gwent, berchnogion y garej, sef y teulu Yandell, yn difrodi cerbyd Landrover trwy ei yrru'n erbyn cerbyd arall er mwyn rhoi'r argraff fod y cerbyd wedi bod mewn damwain.

Dywedodd yr heddlu bod y teulu wedi gwneud hyn i nifer fawr o ffrindiau a pherthnasau.

£750,000

Clywodd y llys fod y troseddwyr wedi amseru'r damweiniau twyllodrus er mwyn talu am achlysuron arbennig, dathliadau penblwydd a genedigaethau. Roedd gwerth y twyll yn erbyn cwmniau yswiriant yn fwy na £750,000.

Dywedodd yr heddlu fod Byron Yandell, 32 oed, Peter Yandell, 53, Gavin Yandell, 31, Rachel Yandell, 31, a Michelle Yandell, 52, yn rhedeg y rhwydwaith "damweiniau am arian" mwyaf o'i fath ym Mhrydain.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Rhan ganolog: Byron Yandell

Cafodd y pump ddedfryd rhwng dwy a chwe blynedd o garchar.

Aeth rhai o'r diffynyddion i'r ysbyty wedi'r damweiniau dychmygol, er mwyn parhau gyda'r celwydd. Clywodd y llys fod Byron Yandell wedi mynd i Ysbyty Tywysog Cymru ym Merthyr Tudful gan gwyno am "boen yn ei gefn".

Diagnosis

Clywodd y rheithgor ei fod wedi derbyn diagnosis yn ddiweddarach am anafiadau oedd yn gyson â bod mewn damwain.

Hwn oedd yr achos twyll yswiriant mwyaf o'i fath yn hanes heddluoedd Prydain ac roedd yn ymwneud â 28 cais yswiriant unigol a mwy na 50 o geir.

Dywedodd pennaeth yswiriant cwmni Admiral fod 55,000 o geisiadau yswiriant yn destun ymchwiliadau "damweiniau am arian" yn flynyddol.

Dywedodd y Biwro Twyll Yswiriant fod twyll o'r math yma yn costio dros £300m i yrwyr yn flynyddol.

Achosion 17 Rhagfyr:

  • Bethan Palmer, 26 oed o Gasnewydd, yn euog o gynllwynio i dwyllo a gwyrdroi cwrs cyfiawnder;

  • Stephen Pegram, 49 oed o'r Coed Duon, yn euog o gynllwynio i dwyllo;

  • Nicola Cook, 41 oed o Hengoed, yn euog o gynllwynio i dwyllo;

  • Nicola Rees, 48 oed o Fargoed, yn euog o gynllwynio i dwyllo;

  • Stephen Brooks, 45 oed o Lanedeyrn, Caerdydd, yn euog o gynllwynio i dwyllo;

  • Adam Fear, 27 oed o Bontypridd, yn ddieuog o gynllwynio i dwyllo;

  • Matthew Davies, 33 oed o Bontypridd, yn ddieuog o gynllwynio i dwyllo.