'Angen is-deitlau Saesneg otomatig ar S4C'

  • Cyhoeddwyd
S4CFfynhonnell y llun, S4C

Mae angen i S4C ddarparu is-deitlau Saesneg ar y sgrîn yn otomatig, yn ôl un o gyn-swyddogion y sianel.

Dywedodd Tweli Griffiths y byddai hynny'n helpu'r darlledwr i fod yn fwy cynhwysol a denu mwy o wylwyr di-Gymraeg.

Mae S4C wedi dweud nad yw wedi cael unrhyw adborth gan y gynulleidfa yn gofyn am newid y drefn i'r gwasanaeth is-deitlo.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai mwy o'r di-Gymraeg yn diddori yn niwylliant yr iaith petai is-deitlau Saesneg parhaol ar S4C, medd Tweli Griffiths.

Fe dreuliodd Mr Griffiths dros 30 mlynedd yn gweithio fel newyddiadurwr ar S4C a dwy flynedd fel Comisiynydd Ffeithiol i'r sianel.

Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf y byddai cael is-deitlau Saesneg ar bob rhaglen yn gyrru "neges seicolegol i'r di-Gymraeg bod yr iaith yn perthyn iddyn nhw hefyd".

"Beth dwi eisiau gweld yw ei gwneud hi'n haws i'r di-Gymraeg gael mynediad i'r sianel. Ar hyn o bryd mae'n rhaid iddyn nhw wneud yr ymdrech i wasgu'r botwm i gael is-deitlau.

"Dylen ni droi hwnna ar ei ben, fel bod yr is-deitlau yna beth bynnag, a bod y baich ar y Cymry Cymraeg i gael eu gwared nhw.

"Mae e wedi ei seilio ar enghraifft Iwerddon lle mae 'na system debyg mewn grym yn y sianel deledu Wyddeleg.

"Byddai'n rhaid bod yna rywfaint o aberth o ran egwyddor ac o ran ymarferoldeb ar ran y gynulleidfa Gymraeg ond fe fydden i'n gobeithio y byddai'r wobr o allu denu cynulleidfa mwy o faint ac felly ddiddori mwy o'r di-Gymraeg yn ein hiaith ni yn gwneud i fyny am hynna."

'Niweidio'r iaith'

Mae'r Dr Eithne O'Connell o Brifysgol Dinas Dulyn wedi bod yn arwain ymchwil sylweddol i effaith isdeitlau Saesneg awtomatig ar raglenni teledu.

Honnodd fod Mr Griffiths yn "methu â gweld y darlun ehangach".

Dywedodd hi wrth BBC Cymru Fyw fod Mr Griffiths yn "siarad fel darlledwr ac nid fel ieithydd cymdeithasol.

"Mae angen arbenigedd yn y ddau faes i wneud asesiadau a phenderfyniadau ynglŷn â chyflwyno is-deitlau.

Ffynhonnell y llun, Maureen Hammond
Disgrifiad o’r llun,

Enghraifft o'r Alban o'r eithafion y mae rhai pobl yn mynd iddyn nhw i osgoi gweld yr is-deitlau Saesneg.

"Mi fyddai cyflwyno hyn yn mynd yn groes i friff y sianel i gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith leiafrifol.

"Mae wedi ei brofi fod cyflwyno is-deitlau Saesneg yn awtomatig i raglenni teledu iaith leiafrifol yn gallu niweidio'r iaith.

"Wrth wylio teledu, mae'r llygaid yn cael eu tynnu yn awtomatig at yr ysgrifen, ac os yw'r ysgrifen honno yn Saesneg, mae'r gwyliwr yn dechrau derbyn y wybodaeth o'r rhaglen yn Saesneg.

"Oherwydd bod yr ymennydd yn prosesu gwybodaeth ysgrifenedig yn well na gwybodaeth lafar mae'r rhaglen uniaith, boed yn Gymraeg neu'n Wyddeleg, fwyaf sydyn yn mynd yn rhaglen ddwyieithog, a hynny o blaid y Saesneg."

Ail-ddangos

Un peth fyddai'n gwneud synnwyr, meddai, fyddai darlledu rhaglen yn ei chyfanrwydd yn yr iaith leiafrifol yn gyntaf ac wedyn ei ail-ddangos gydag is-deitlau Saesneg.

"Roedd ein darlledwr cenedlaethol RTE yn yr Iwerddon yn arfer gwneud hyn.

"Hefyd, roedd pethau'n edrych yn well 20 mlynedd yn ôl, wedi dyfodiad Teletext - bryd hynny roedd modd dewis isdeitlau Cymraeg neu Saesneg ond nawr mae hwnnw wedi mynd.

"Gyda'r dechnoleg sydd ganddon ni, does 'na ddim rheswm pam nad yw hyn ar gael.

"Wedi dweud hyn, dwi'n deall pam fod pobl fel Tweli Griffiths yn dweud hyn, maen nhw angen meddwl am ffigyrau gwylio'r sianeli ieithoedd lleiafrifol, ac angen meddwl am sut i ddenu gwylwyr newydd," meddai Dr O'Connell.

Dywedodd Curon Davies o grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith: "Rhaid ystyried yn y lle cyntaf pa mor ymarferol fyddai gwneud hyn (darparu is-deitlau Saesneg ar y sgrîn yn otomatig) gyda'r dechnegol bresennol ac yn ariannol.

"Yn ymarferol dydy hi ddim yn glir a yw hi'n bosibl rhagosod is-deitlau, a byddai gofyn am fuddsoddiad sylweddol.

"Mae S4C yn wynebu toriadau sydd yn golygu bod perygl i gynnwys y sianel fel ag y mae."

Ymyrryd â mwynhad?

Dywedodd Ioan Talfryn, sefydlydd Popeth yn Gymraeg, ei fod yn cytuno â syniad Mr Griffiths mewn egwyddor ond bod ganddo bryderon.

"Fel rhywun sy'n gweithio gyda dysgwyr, dwi'n gwybod pan fo dysgwyr yn dechrau dysgu Cymraeg, mae cael is-deitlau Saesneg yn help iddyn nhw gael mynediad i S4C, ond pan maen nhw'n dod ychydig bach yn well, mae is-deitlau Cymraeg yn well nag is-deitlau Saesneg.

"Y broblem ydy hon - os ydych chi'n rhoi is-deitlau Saesneg ar raglenni Cymraeg, bydd y Cymry Cymraeg sy'n gwylio'r rhaglenni hynny wedyn, bydd hynny'n ymyrryd ar eu prosesu nhw, ar eu mwynhad nhw.

"Pan fydd is-deitlau ar y teledu, mae'ch sylw chi'n cael ei dynnu at yr is-deitlau p'un ai ydych chi eisiau gwneud hynny ai peidio. Dwi'n cytuno gyda Tweli, os oes modd troi'r is-deitlau hynny i ffwrdd, mae hynny'n wych.

"Yr unig bryder sy gen i ydy o edrych ar gynulleidfa S4C, mae llawer o'r gynulleidfa'n hŷn. Dwi'n meddwl am rai o'r bobl dwi'n nabod - a fydden nhw'n gwybod sut i droi'r is-deitlau Saesneg i ffwrdd? Cyhyd â bod hynny'n bosib ac yn hawdd i'w wneud, dwi'n credu y byddwn i'n cytuno efo fo."

'Dim bwriad'

Dywedodd Rachel Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C: "Rydym yn diolch i Tweli Griffiths am ei sylwadau a'i syniadau diddorol.

"Nid ydym wedi derbyn adborth mai is-deitlau awtomatig ar y sgrin yw dymuniad y gynulleidfa, ac felly nid yw'n fwriad gennym ar hyn o bryd i wneud hyn.

"Yn ystod y flwyddyn 2014-15 roedd is-deitlau Saesneg ar gael ar 78.05% o'n rhaglenni, dim ond i chi eu troi ymlaen ar eich teledu neu wrth wylio ar alw ar-lein, ac rydym yn darparu is-deitlau Saesneg yn awtomatig ar y sgrin ar nifer o ailddarllediadau penodol fel dramâu."