Clwb Rygbi Pwllheli'n cofio Robin Llyr Evans
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Clwb Rygbi Pwllheli gynnal 'Gêm Ddathlu' ddydd Sul, i gofio am un o'u cyn chwaraewyr fu farw mewn damwain yn China fis Medi.
Roedd Robin Llyr Evans, oedd yn 21 oed, yn gweithio i gwmni technoleg chwaraeon "Hawkeye" yn Wuhan, China, pan ddigwyddodd y ddamwain.
Ag yntau yn chwaraewr rygbi talentog ac yn gyn gapten tîm ieuenctid Pwllheli, penderfynodd y clwb gynnal digwyddiad ar ddydd Sul 27 Rhagfyr i gofio amdano a dathlu ei fywyd.
Roedd y digwyddiad yn codi arian ar gyfer Cronfa Robin, yn ogystal ag Ambiwlans Awyr Cymru a Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd.
'Personol'
Dywedodd Cadeirydd Clwb Rygbi Pwllheli, Wil Martin, wrth BBC Cymru Fyw mai chwaraewyr y clwb benderfynodd drefnu'r gêm.
"Da ni fel arfer yn gwneud lot i godi arian i betha' fel yr Ambiwlans Awyr - ac oedd yr hogiau'n d'eud na fasa ni'n gallu gwneud rhywbeth tro 'ma heb ddangos parch i Robin hefyd. Mi ddatblygodd y syniad o fanno.
"Mae'r digwyddiad yma'n lot fwy personol, wrth gwrs. Mi aeth Robin mor sydyn.
"Mi fyddan ni'n codi arian i Gronfa Robin, er cof amdano, a hefyd i'r Ambiwlans Awyr a Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd. Mae merch 18 oed un o fewnwyr Pwllheli yn cael triniaeth am ganser yno.
"Mae'n bwysig cofio am Robin, ac wrth feddwl amdano fel oedd o - hefo gwên ar ei wyneb drwy'r adeg - mi benderfynon ni ei galw hi'n gêm ddathlu. Hogyn fel 'na oedd o, clen a chwrtais. 'Nes i 'rioed glywed o'n d'eud gair drwg am neb."
'Sobor o drist'
Ychwanegodd fod Robin wedi bod dramor yn gweithio gyda chwmni Hawkeye am gyfnod.
"Ar ôl bod yn America, roedd o wedi gwirioni cael cyfle i fynd i China.
"Roedd Robin 'di bod yn gyn gapten y tîm ieuenctid. Yn naturiol, roedd o 'di chwarae llai yn ddiweddar - gan ei fod o i ffwrdd hefo'i waith ac ati. Ond roedd o'n hogyn lleol ac roedd 'na gysylltiad agos rhwng yr hogiau i gyd. Nhw fydd yn y ddau dîm sy'n chwarae ddydd Sul."
Dywedodd Mr Martin fod y clwb yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth i deulu Robin.
"Mae'r clwb wastad wedi adeiladu rownd teuluoedd ac er mai Pwllheli ydy'r enw, mae'n glwb i Ben Llŷn i gyd.
"Mae'n sobor o drist be' sy' wedi digwydd - dwi'm yn gwybod sut mae'r teulu'n dygymod. Mab holliach a bywyd o'i flaen a job dda - cael galwad ffôn fel 'nathon nhw - mae'n anodd deall eu teimladau nhw.
"Da ni'n cydymdeimlo ar ran pawb, nid jyst y clwb ond y gymdeithas hefyd. Mae'r golled wedi taro lot o bobl. Mi odd o'r math o hogyn oedd yn cymysgu hefo pawb - yn glen, yn smart, bob dim o'i flaen.
"Da ni'n codi arian - ond hefyd yn trefnu'r digwyddiad fel arwydd o barch i Robin a dangos i'r teulu sut mae pawb yn teimlo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2015