Les Misérables: Tu nôl y llen

  • Cyhoeddwyd

Ar S4C dros y Nadolig hwn, mae cyfres o dair rhaglen o 'Les Misérables: Y Daith i'r Llwyfan' yn dilyn y bobl ifanc a fu'n perfformio'r sioe gerdd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ym mis Hydref.

Mae'r dair rhaglen yn dilyn y clyweliadau ac yn gweld ymateb Cameron Mackintosh i'r perfformiadau, y paratoadau funud olaf a'r cast yn camu ar y llwyfan am y tro cyntaf.

Roedd 130 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan yn 'Les Misérables: Y Fersiwn Ysgolion', a chyn iddyn nhw orffen y gwisgoedd na chyffwrdd y colur, aeth Cymru Fyw hefyd tu nôl i'r llenni yn ystod wythnos y perfformio ym mis Hydref, i ganol y nerfau a'r cyffro, i gael sgwrs gyda rhai o'r actorion.

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o gast y sioe

Dau o brif gymeriadau'r sioe, Gareth Thomas o'r Tymbl sy'n chware rhan 'Javert' a Gwen Edwards o Ynys Môn, sy'n astudio yng Nghaerdydd, ydy 'Fantine'.

Disgrifiad o’r llun,

Gareth (Javert) a Gwen (Fantine)

"Dyma'r rhan wnes i ymgeisio amdani," meddai Gareth sy'n astudio Drama ym Mhrifysgol De Cymru. "Yn ddelfrydol yn y West End yw lle hoffen i fod yn y dyfodol, felly mae hwn yn blatfform gwych i'r dyfodol."

"Rwy'n rili nerfus ar ôl dod yma i Ganolfan y Mileniwm i ymarfer. Mae pump bws i gyd yn dod o Ynys Môn nos Sadwrn i'n gweld ni!" meddai Gwen.

"Mae Mam yn dod i bob un o'r perfformiadau!" meddai Gareth.

Disgrifiad o’r llun,

Gosod y meicroffon yng nghwallt Will, cyn yr ymarfer sain ar y llwyfan

Mae Will o Aberteifi, yn chwarae rhan un o'r myfyrwyr yn y sioe.

"Hwn yw'r peth gore' dwi erioed wedi neud. Mae'r cyfleoedd ni wedi cael yn anhygoel. Roedd cael perfformio yn y West End ddechrau Hydref, yn uchafbwynt. Amser 'ma llynedd bydden i ddim wedi meddwl bydden i wedi cael profiad o fynd i'r West End a pherfformio ar y llwyfan yno gyda'r sêr, y bobl fi wedi edrych lan atyn nhw ers pan o'n i'n fach. O'n i'n star struck i weld John Owen Jones a Colm Wilkinson.

"Daeth Cameron Mackintosh i'n gweld ni yn ymarfer yma ym mis Awst a rhoi tips i ni. Roedd e'n dweud bod rhaid i ni actio a pherfformio yn broffesiynol, dim Eisteddfod yw hwn!"

Mae Rhys Coxley o Abercynon yn ddisgybl yn Ysgol Rhydywaun yn chwarae rhan un o'r myfyrwyr.

"Dwi wedi perfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm o'r blaen, felly dwi ddim yn rhy nerfus y tro 'ma. Roedd gen i ran yn y corws yn y sioe 'Oliver' pan o'n i tua 12 oed. Rwy'n mynd i Ysgol Berfformio Mark Jermin ac wedi cael rhannau yn 'Casualty' a 'Pobol y Cwm'. Dwi newydd orffen ffilmio rhan yn y ffilm 'The Devil in the Room'. Mae Les Misérables yn sialens fawr, dwi'n mwynhau lot."

Cyfarwyddiadau munud olaf

Disgrifiad o’r llun,

Cefin Roberts yn cyfarwyddo'r cast

Cyn troedio ar y prif lwyfan i ymarfer am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Mileniwm, Cefin Roberts yn rhoi cyfarwyddiadau munud olaf i'r cast.

Disgrifiad o’r llun,

Y cwnstabliaid

Iolo Roberts o Lanwrda a Connor Massey o Cross Hands sy'n chwarae rhannau'r Cwnstabliaid.

"Rwy'n mwynhau actio, ond rwy'n astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. Mewn ffordd rydych chi'n perfformio ym myd y Gyfraith hefyd," meddai Connor.

"Fe wnaethon ni berfformio Les Mis yn Ysgol Bro Dinefwr pan o'n i'n mlwyddyn 7," meddai Iolo "r'on i'n chwarae rhan Gavroche bryd 'ny, felly mae'n grêt i berfformio'r sioe eto mewn rhan wahanol. Rwy' eisiau bod yn athro ysgol gynradd ar ôl gadael coleg."

Disgrifiad o’r llun,

Jodi Bird, un o ddwy sy'n chwarae rhan Eponine. Lois Glain Postle sy'n rhannu'r rôl.

"Rwy' wedi bod yn ysu i chwarae'r rôl 'Eponine' ers pan o'n i'n blentyn," meddai Jodi Bird o Benarth sy'n ddisgybl yn Ysgol Bro Morgannwg. "Dyw e ddim yn teimlo'n real iawn i fi eto, mae hon di bod yn wythnos fythgofiadwy.

"Dwi methu aros i berfformio'r sioe, fe wnes i berfformio ar y llwyfan yma unwaith pan o'n i'n 10 oed yn 'White Christmas'. Dwi'n gobeithio mynd ymlaen i'r West End ac i Broadway yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

John Quirk, Cyfarwyddwr Cerdd y cynhyrchiad

"Rwy'n astudio Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth" meddai Sion o Wrecsam, sy'n portreadu un o'r myfyrwyr. "Dwi bach yn nerfus ond yn edrych ymlaen. Fe wnes i TGAU a Lefel A Drama ond dwi eisiau gweithio yn y diwydiant Amaeth ar ôl graddio. Fe es i am glyweliad i Les Mis, a dyma fi!"

'Profiad anhygoel'

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd (Marius) a Sioned (Cosette)

"Mae hwn yn brofiad anhygoel, dwi erioed 'di gwneud rhywbeth fel hyn o'r blaen," meddai Dafydd Jones, mab fferm o Llanrhaeadr, Dyffryn Clwyd sy'n chwarae rhan 'Marius'.

'Cosette' ydy Sioned Llewelyn sy'n astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd. "Dwi mor falch bo fi wedi ca'l rhan Cosette, hon oedd y rôl o'n i moyn achos y math o ganu dwi'n neud. Mae'n brofiad hyfryd, dyma'r tro cynta' i fi wneud rhywbeth fel hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Yr actores a'r ddawnswraig Lauren Phillips yn rhoi sglein ar goreograffi diweddglo'r sioe

Disgrifiad o’r llun,

Y dair 'Cosette Fach'

Manw o Rhostryfan, Hanna o Gaerdydd a Madeleine o Lanfairfechan yw'r tair sydd wedi cael y rôl 'Cosette Fach'. Meddai Hanna, "rwy'n edrych ymlaen ond bach yn nerfus.

"Dwi'n neud lot o actio gyda Clwb Drama Bro Taf ond dwi ddim wedi neud dim byd ar lwyfan mor fawr â hyn o'r blaen. Pan dydyn ni ddim yn actio Cosette, rydyn ni'n gymeriadau eraill fel Eponine a phlentyn yn golygfa'r barnwr."

Roedd y perfformiadau yng Nghanolfan y Mileniwm o ddydd Iau Hydref 29 tan ddydd Sadwrn Hydref 31, 2015. Roedd y cynhyrchiad yn gywaith Canolfan Mileniwm Cymru ac Urdd Gobaith Cymru ar y cyd ag Ysgol Glanaethwy a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddathlu deng mlynedd ers agor Canolfan Mileniwm Cymru a Gwersyll yr Urdd Caerdydd.

Mwy am y sioe:

Dewis sêr Les Misérables

Les Misérables: Criw yr Urdd yn perfformio yn y West End

'Les Misérables: Y Daith i'r Llwyfan', S4C, Nos Lun28 Rhagfyr, Nos Fercher 30 Rhagfyr aNos Wener, 1 Ionawr, 19:30