Hep C: Perygl i 50% o ddefnyddwyr cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n rhybuddio fod 50% o bobl sy'n chwistrellu cyffuriau mewn perygl o ddal Hepatitis C.
Mae'r corff yn rhybuddio bod cyffuriau cyfreithlon neu legal highs wedi gweddnewid y sefyllfa, a bod y risg i iechyd yn broblem wirioneddol.
Mae rhai wedi troi at chwistrellu'r cyffuriau hynny, tra mae defnyddwyr heroin un ai'n chwistrellu'r ddau, neu wedi troi at gymryd sylweddau seico-weithredol.
Mae'n hysbys fod 12,000 o bobl yn defnyddio gwasanaeth cyfnewid nodwyddau yng Nghymru.
Yn ôl Josie Smith, pennaeth camddefnydd sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru, dyw'r sefyllfa ddim dan reolaeth.
"Mae'r sylweddau seico-weithredol newydd wedi gweddnewid pethau lle mae'r risg o ddal Hepatitis C yn y cwestiwn."
'Gwell rheolaeth'
"Yn Abertawe, roedd chwistrellu mephodrone yn frith ymhlith pobl ifanc oedd ddim wedi chwistrellu o'r blaen, ac roedd y bobl hynny oedd â hanes o chwistrellu heroin yn dechrau chwistrellu mephodrone yn ogystal â (heroin) neu yn ei le.
Dywedodd fod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru well rheolaeth ar y broblem erbyn hyn, a bod ganddyn nhw'r offer i brofi, sgrinio a rhoi diagnosis, a chyfeirio pobl am driniaeth, tra bo defnyddwyr cyffuriau'n fwy ymwybodol o'r clefyd.
Ar hyn o bryd, mae'r driniaeth ar gyfer Hepatitis C yn cynnwys gwerth blwyddyn o chwistrelliadau sy'n arwain at sgil-effeithiau fel iselder, blinder a theimlo'n sâl.
Yn 2014, dywedodd gwyddonwyr fod triniaeth newydd yn gwella 90% o gleifion o fewn 12 wythnos.
Yn ôl Ifor Glyn, prif weithredwr elusen Sands Cymru, mae "nifer enfawr" o ddefnyddwyr yn Abertawe wedi eu heintio a'r clefyd.
"Ry ni'n meddwl y gallai fod cymaint a 70%, a dyw nifer fawr ohonyn nhw ddim yn gwybod amdano", dywedodd.
"Mae e'r un pryder a HIV, yn yr ystyr mai drwy gyfnewid hylifau'r corff y mae'n arfer cael ei ddal. Os na chaiff pobl driniaeth, fe allai fod yn angheuol.
"Petai pawb yn dod i gael triniaeth ar gyfer Hepatitis C, fe allai gael effaith anferth ar gyllidebau iechyd.
"Ein neges yw i beidio a rhannu nodwyddau a sicrhau bod pobl yn cael rhyw diogel."