Byw yn y gwyllt
- Cyhoeddwyd
Ychydig dros flwyddyn yn ôl fe wnaeth Carwyn Jones o ardal Porthmadog osod sialens i'w hun - sialens Tir a Môr.
Roedd o'n bwydo ei hun drwy hela, 'sgota a chwilota pysgod, cig a chregyn am flwyddyn.
Ond doedd hynny ddim yn ddigon i Carwyn ac mae o wedi mynd i'r afael â sialens newydd.
Mae o wedi bod yn ceisio goroesi yn y gwyllt a byw yn hunangynhaliol am bum diwrnod a phump noson. Gallwch weld sut hwyl gafodd o mewn cyfres newydd ar S4C fydd yn dechrau nos Iau, 7 Ionawr.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs efo Carwyn am yr her ddiweddara':
Beth oedd yn wahanol rhwng y sialens yma a'r sialens Tir a Môr?
Dwy sialens hollol wahanol i ddweud gwir. Y tro yma doedd gen i yn llythrennol ddim bwyd o gwbl, ychydig o offer sylfaenol oedd gen i, ac hefyd roedd y tywydd yn fy erbyn i.
Roedd y ddwy sialens yn anodd, ond mi ro'dd hon yn anodd mewn ffordd wahanol, gyda diffyg cwsg yn broblem.
Ro'n i'n cerdded lot, ac i ddweud gwir mi roedd o'n lot mwy peryglus. Roedd hi'n iawn yn y dydd ond yn ystod y nosweithiau roedd hi'n oer ofnadwy.
Beth oedd agweddau anodda'r sialens?
Cael criw camera efo fi! Roedd hi'n od cael cwmni, achos doedd gen i byth gwmni efo fi fel arfer yn ystod fy sialens gynta'.
Ro'dd hi'n eitha' anodd cael dau foi efo fi wrth hela - yn sticio allan braidd, ond chwarae teg mi 'naethon nhw slogio hi'n galed ac mi roedden nhw yno o'r dechrau i'r diwedd.
Goll'is i stôn mewn 5 diwrnod am bo' fi 'di bod yn teithio o gwmpas gymaint, ro'dd na lot mwy o straen ar iechyd rhywun.
Dwi'n eitha sicr os fyswn i 'di aros yn yr un lle mi fyswn i 'di bod yn ok.
Ar y pedwerydd diwrnod o'n i'n dechra' cael panics i ddeud gwir, gan grwydro i le o'dd ddim rili'n gyfarwydd i fi, ac doedd 'na ddim lot o betha' gwyllt i'w fwyta' yno.
Felly ar y diwrnod ola' o'n i'n rhedeg ar adrenaline a fumes a just pigo be bynnag o'n i'n weld - ffrwytha' ac yn y blaen.
Ond be' sy'n rhyfedd 'di bod y brên yn dechra' rheoli'r corff ac yn fy mhwshio fi a fy mhwsio fi, a dyna sut es i drwyddi yn y diwedd.
Pa gyngor fysa ti'n ei roi i rywun sydd ag awydd mynd ar antur tebyg?
Gyda phob parch, mae rhaid gwneud y gwaith ymchwil. Mae hi'n gêm beryg - felly os 'dach chi ddim yn gwybod be 'dach chi'n neud, peidiwch a'i wneud o.
Does dim rhaid i chi fynd allan i'r awyr agored am bump diwrnod y tro cynta' - just ewch allan a choginio rhywbeth.
Mae angen darllen digon o lyfra' - peidiwch mynd ar y we achos mae 'na gymaint o rwtsh arna fo. Darllenwch y llyfra' cywir a gwrando ar bobl sy'n gwybod be' ma' nhw'n sôn amdano - ac ewch allan i drio fo!
Ydi'r heriau 'ma wedi dy helpu di yn dy fywyd bob dydd?
Yn sicr mae 'di fy helpu mewn sawl ffordd - fy ffitrwydd ac yn feddyliol. Mae gwneud rhywbeth fel hyn yn rhoi bob dim mewn i bersbesctif - bod y pethau dwi'n poeni amdanyn nhw yn y byd modern... dydyn nhw ddim yn bwysig mewn gwirionedd, a does 'na ddim amser i boeni amdanyn nhw.
Mae gwneud hyn yn fath o therapi. Mae rhywun mor insignificant i bopeth sydd o'u hamgylch pan 'dach chi allan ym myd natur, yng nghanol 'nunlla.
Beth fydd yr her nesaf?
Mae gen i lot o syniadau. Bydd yn rhaid i'r sialens nesa' fod yn anoddach, a dwi'n meddwl 'falla mynd i wlad arall - Sweden, Norwy, Yr Alban hyd yn oed. Mi fyswn i'n hoffi testio fy hun yn erbyn yr elfennau mewn llefydd fel yna.
Dwi ddim yn gwbod pryd mae hyn am stopio - mae gen i addictive personality a fydda i ddim yn hapus nes bo fi'n cyflawni rhywbeth mwy.