Cymru 2016: Efa Gruffudd Jones
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru Fyw wedi mynd ati i holi rhai o wynebau cyfarwydd Cymru fel rhan o gyfres o erthyglau arbennig ar ddechrau blwyddyn newydd.
Cafodd Efa Gruffudd Jones MBE ei phenodi fel Prif Weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol y llynedd, corff newydd sbon sy'n gyfrifol am y rhaglen Cymraeg i Oedolion. Mi fuodd yn brif weithredwr Urdd Gobaith Cymru am dros ddeng mlynedd cyn hynny.
Yma mae'n rhannu ei barn gyda Cymru Fyw, yn y gyntaf o'r gyfres 'Cymru 2016' sy'n rhedeg drwy gydol mis Ionawr, ac yn trafod sefyllfa'r iaith Gymraeg heddiw a'i gobeithion am y flwyddyn i ddod:
Y Gymraeg yn iaith i bawb
Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb sy'n byw yng Nghymru.
Mae pawb sy'n byw yma yn gwybod bod y Gymraeg o'u cwmpas. Mae tua 11% o bobl yn siarad yr iaith yn rhugl, gyda 12% arall yn llai rhugl. Mae pob plentyn a pherson ifanc yn dysgu o leiaf rywfaint o Gymraeg ac mae miloedd o bobl yn cofrestru bob blwyddyn ar gyrsiau Cymraeg i oedolion.
Ond yn ôl adroddiad Codi Golygon: adolygiad o Gymraeg i Oedolion a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn 2013, mae 2.1 miliwn o oedolion ôl-16 yn byw yng Nghymru sydd yn methu siarad yr iaith.
Mae cyfle arbennig, felly, wrth sefydlu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i fod yn uchelgeisiol wrth ddenu dysgwyr newydd i'r iaith a chynyddu niferoedd y siaradwyr rhugl.
Defnydd o'r Gymraeg
Yn ôl arolwg:
2.1 miliwn
o bobl dros
16 oed
yng Nghymru sydd ddim yn siarad yr iaith
Dysgwyr yn gyntaf
Rhoi'r dysgwyr yn gyntaf yw'r flaenoriaeth. Byddwn yn adeiladu ar y gwaith da sy'n cael ei wneud eisoes gydag oedolion, gan ddatblygu darpariaeth hyblyg a'i wneud yn hawdd i ddysgwyr ledled Cymru a thu hwnt ddod o hyd i wybodaeth am sut i ddysgu'r iaith.
Bydd creu cwricwlwm a deunyddiau cyfoes a datblygu dulliau newydd o ddysgu'r Gymraeg, gan gynnwys gwireddu potensial y maes e-ddysgu, yn flaenoriaeth.
I ddechrau, bydd y pwyslais ar dargedu grwpiau penodol - hoffwn weld mwy o rieni yn dysgu'r Gymraeg a mwy yn dysgu'r iaith yn eu gweithleoedd.
Rwy'n edrych ymlaen at arwain sefydliad cynhwysol sy'n gweithio gyda thiwtoriaid ymroddedig a phartneriaid allweddol i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith i bawb. Ei bod hi'n iaith fywiog sy'n cael ei siarad bob dydd gan bobl o bob oedran.
Iaith glir a dealladwy
Rydym yn gwybod bod amrywiaeth enfawr yn hyder a pha mor rhugl yw pobl wrth siarad a defnyddio'r Gymraeg.
Mae angen i siaradwyr Cymraeg di-hyder, siaradwyr newydd sy'n cael eu creu drwy ein hysgolion Cymraeg a dysgwyr ddeall yr iaith sy'n cael ei defnyddio.
Mae angen felly i Gymraeg y cyfryngau a sefydliadau cyhoeddus eraill fod yn glir fel bod mwy o bobl yn gallu ymwneud â'r byd Cymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau.
Croesawu dysgwyr
Mae dysgu iaith yn debyg i ddysgu canu offeryn - mae angen digon o ymarfer. Mae'n bwysig, felly, bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i ddefnyddio eu Cymraeg y tu allan i'r dosbarth.
Mae angen adeiladu ar y cyfleoedd cymdeithasol ac anffurfiol sydd eisoes yn dod â siaradwyr iaith gyntaf a dysgwyr ynghyd ac ystyried ffyrdd newydd o gryfhau'r berthynas hollbwysig hon.
Mae siaradwyr rhugl yn gallu bod yn ansicr o faint mae dysgwyr yn ei ddeall ac mae'n rhy hawdd weithiau i droi at y Saesneg - ond os ydym i gefnogi dysgwyr i ddod yn rhugl, rhaid dal ati.
Mae diffyg hyder hefyd yn gallu bod yn rhwystr, ond does dim o'i le ar siarad iaith sydd heb fod yn ramadegol berffaith neu gyda geirfa o'r Saesneg.
Hyder
Rwy'n hyderus am y Gymraeg: o Ben-y-bont i Borthmadog cefais wasanaeth Cymraeg dros y gwyliau Nadolig ac mae taflenni Cymraeg hyd yn oed yn Wiwo yn Nhreganna, Caerdydd (takeaway gorau Cymru, mae'n debyg!)
Fel oedolyn yng Nghaerdydd dwi'n clywed y Gymraeg ar hyd a lled y ddinas - yn wahanol i'm plentyndod yn Nhreforus, pan oeddwn yn adnabod pawb oedd yn siarad yr iaith.
Fy ngobaith felly ar ddechrau blwyddyn fel hon? Datblygu rhaglen eang o ansawdd i gynyddu'r niferoedd sy'n llwyddo i ddysgu Cymraeg a gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau bod cyfle i bawb, beth bynnag yw rhuglder eu Cymraeg, i ddefnyddio'r iaith. O ie - a gweld Cymru yn gwneud yn dda yn Euro 2016!
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2016