Bwch gafr newydd i'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
- Cyhoeddwyd

Fe fydd gan Llywelyn gartref moethus yn cynnwys soffa a radio ym Marics Lucknow
Mae bwch gafr newydd wedi cyrraedd Bataliwn 1af y Gatrawd Frenhinol Gymreig.
Fe gafodd Ffiwsilwr Llywelyn ei ddewis o blith y gorlan Frenhinol ar y Gogarth yn Llandudno.
Bydd yn byw yng nghanolfan y gatrawd ym Marics Lucknow, Wiltshire, a bydd hefyd yn mynychu holl ddyletswyddau seremonïol y Ffiwsilwyr.
Mae ei benodiad yn dilyn marwolaeth bwch gafr yr 2il Fataliwn, sef yr Is-gorporal Gwillam 'Taffy VI' Jenkins ym mis Mai y llynedd.

Bu farw Taffy ym mis Mai
Mae'r Ffiwsilwyr Llywelyn wedi cwblhau hyfforddiant sylfaenol dan oruchwyliaeth yr Uwch-Gapten Matthew Owen o Ynys Môn, a'i ddyletswydd gyntaf fydd arwain gorymdaith mewn digwyddiad i goffáu Brwydr Rorke Drift yn 1879.
Dywedodd y gatrawd eu bod wedi ei ddewis yn dilyn "arolwg manwl" o'r gorlan a'i fod wedi "sefyll allan a dangos mwy o addewid na'r lleill".
Ynghyd â'i ddyletswyddau gyda'r gatrawd, mae Llywelyn wedi cael gwahoddiad i orymdeithio yn Llundain ar gyfer dathliadau pen-blwydd y Frenhines yn 90 oed, a bydd hefyd yn treulio'r haf fel rhan o'r gwarchodlu ym Mhalas Buckingham.
Dechreuodd y traddodiad o gadw gafr Brenhinol yn 1844 pan gyflwynodd y Frenhines Victoria fwch gafr am y tro cyntaf i'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ond fe gredir bod yr anifeiliaid wedi bod yn rhan o orymdeithiau ers y 1700au.

Yr Uwch-Gapten Matthew Owen a Llywelyn