Siarter Iaith Gwynedd yn cael ei hymestyn ar hyd y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae siarter iaith ar gyfer ysgolion cynradd yn cael ei hymestyn i siroedd gogledd Cymru mewn cynhadledd arbennig ddydd Gwener.
Mae cynhadledd arbennig wedi ei chynnal yng Nghanolfan Glasdir, Llanrwst i lansio ymestyn y Siarter Iaith Ysgolion Cynradd i siroedd Conwy, Dinbych, Wrecsam a'r Fflint.
Cafodd y siarter ei lansio yn wreiddiol yng Ngwynedd yn 2011 ac yn ôl y cyngor, mae'r gwaith "arloesol" gafodd ei wneud i ddylanwadu ar ddefnydd plant o'r Gymraeg wedi cael ei gydnabod yn "enghraifft o ymarfer da" ar draws Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cyngor Gwynedd i arwain ar waith ymestyn Siarter yr Iaith Gymraeg ledled siroedd gogledd Cymru.
Mae'r siarter eisoes ar waith yng Ngwynedd ac Ynys Môn, ac mae'r gynhadledd yn Llanrwst yn gyfle i bobl ddysgu am y gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni yn ysgolion Gwynedd ac yn gyfle i benaethiaid ysgolion cynradd o'r siroedd eraill i ddysgu mwy am weithredu'r siarter.
Annog a chefnogi plant
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd a llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar yr iaith Gymraeg, Dyfed Edwards: "Ein nod yng Ngwynedd wrth sefydlu'r Siarter Iaith oedd annog a chefnogi plant y sir i ddefnyddio eu Cymraeg - nid yn unig yn y dosbarth ond ym mhob agwedd o'u bywydau.
"Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r cynllun wedi profi yn boblogaidd ymhlith ysgolion ar hyd a lled Gwynedd gyda disgyblion a staff yn cymryd camau ymarferol i sicrhau fod y Gymraeg yn cael lle teilwng yn yr ysgol a thu hwnt.
"Mae yna lawer iawn o arferion da yn ein hysgolion, yn cynnwys hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg yn ystod amser egwyl, hyfforddiant a gweithgareddau i ennyn balchder yn yr iaith a'r diwylliant a threfniadau ffurfiol i wobrwyo cynnydd.
"Mae llwyddiant y cynllun wedi dwyn sylw a chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ac rydym yn falch iawn eu bod wedi comisiynu'r Cyngor i ymestyn y siarter i ysgolion gweddill siroedd y gogledd."
Mae'r gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru, ynghyd â phrofiad disgyblion sydd wedi bod yn rhan o'r Siarter Iaith a gweithdy ar weithredu'r siarter i benaethiaid ysgolion cynradd.