Cannoedd yn galw am achub Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli
- Cyhoeddwyd
Mae dros 1,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu cau Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli.
Mae'r adeilad dan fygythiad wrth i'r cyngor chwilio am arbedion o £5m, ond dywedodd y cyngor nad oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi'i wneud eto.
Mae'r adeilad wedi cynnig adloniant i bobl yr ardal a thu hwnt ers dros ganrif.
Yn ogystal â bod yn theatr a sinema, mae'r neuadd hefyd yn gartref i lyfrgell a chanolfan ymwelwyr y dref.
'Pwysig iawn'
Dywedodd y Cynghorydd Michael Sol Owen: "Mae 'na ymgyrch gref iawn yn ardal Pwllheli a Phen Llŷn i gadw'r lle yn agored.
"Ond mae'n bwysig iawn i ardal llawer mwy eang na Pwllheli.
"Da ni'n cael pobl yn dod o gyn belled â Betws y Coed i weld cyngherddau neu ryw weithgaredd yn y neuadd."
Mae cau'r neuadd yn un o dros 100 o doriadau posib sydd dan ystyriaeth gan Gyngor Gwynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod wedi bod yn ymgynghori'n helaeth ers misoedd ynglŷn â thoriadau posib.
Roedd dros 2,000 o bobl y sir wedi ymateb, ac mae'r awdurdod bellach yn ystyried yr ymatebion cyn gwneud penderfyniadau terfynol ar unrhyw doriadau erbyn mis Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2011