Bws ysgol: Rhieni Sir Fflint yn cwyno am bolisi'r cyngor

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion

Mae Prifathro wedi galw ar Gyngor Fflint i gael gwared ar bolisi trafnidiaeth ysgol gan ddadlau ei fod yn gwahaniaethu ar ddisgyblion yn ôl eu ffydd.

Mae disgyblion Catholig Ysgol Uwchradd Sant Richard Gwyn yn cael mynd ar fws am ddim, tra bod rhaid i rai eraill dalu i fynd ar un gwahanol, meddai rhieni.

Dywedodd y Prifathro, Ronald Keating, y dylai'r drefn ddod i ben.

Y polisi swyddogol yw rhoi tocyn am ddim i ddisgyblion sy'n byw fwy na thair milltir o'r ysgol, os ydyn nhw o'r un enwad a'r ysgol.

Y rheswm dros hynny yw mai dyma'r ysgol Gatholig agosaf y gallen nhw fynychu.

Nid 'polisi newydd'

Yn ôl Cyngor Fflint dyw'r polisi ddim yn newydd nac yn unigryw.

Mae'n rhaid i ddisgyblion sydd ddim o'r un ffydd dalu gan y gallen nhw fynd i ysgol agosach.

Maen nhw yn gyfrifol am un bws ar gyfer y disgyblion sydd efo tocyn am ddim a hefyd rheiny sydd ddim yn Gatholig ond wedi cael tocyn gostyngol am £55.

Yr ysgol sydd yn gyfrifol am yr ail fws. Disgyblion sydd heb docyn am ddim sydd yn mynd ar y bws yma ac maen nhw'n gorfod talu £149 y tymor.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Fflint: "Dyw'r cyngor ddim yn dyblygu gwasanaethau ac rydym yn darparu trafnidiaeth i ddisgyblion sydd yn gymwys."