Cynllun i hybu economi canol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynigion i gael busnesau yng Nghaerdydd i godi mwy 'na £1.5m y flwyddyn ar gyfer ganol Caerdydd wedi eu lansio.
Mae cwmnïau wedi bod yn gweithio ar y cynllun am chwe mis, gyda'r nod o sefydlu Ardal Datblygu Busnes.
Mae cynlluniau tebyg eisoes yn bodoli mewn nifer o ddinasoedd ar draws Prydain.
Byddai bron i 1,000 o fusnesau yn yr ardal yn talu treth ychwanegol i ddatblygu prosiectau.
Y gobaith yw y byddai'r newidiadau neu welliannau wedyn yn denu mwy o bobl i ganol y ddinas ac yn cynyddu elwa'r busnesau sydd wedi cyfrannu.
Ond cyn i'r cynllun gael ei fabwysiadu byddai'n rhaid i fwyafrif o'r holl gwmnïau fyddai'n cael eu heffeithio dan y drefn newydd bleidleisio o blaid y newid.