Cau banciau: Beth yw'r ateb?
- Cyhoeddwyd
Bydd dau fanc arall yn cau mewn dwy dref wledig yn Sir Drefaldwyn ddydd Gwener.
Mae HSBC yn rhoi'r gorau i wasanaethu Llanfair Caereinion a Llanfyllin oherwydd, yn ôl y cwmni, y diffyg defnydd sydd o'r canghennau. Yn ôl HSBC mae defnydd o'i ganghennau wedi gostwng 40%.
Rhain yw'r diweddara mewn rhestr hir o ganghennau banc sydd wedi cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Trwy Brydain cafodd oddeutu 650 o fanciau stryd fawr eu cau y llynedd, 500 y flwyddyn gynt.
Undeb credyd
Mae'n debyg y bydd yr arferiad yn parhau eleni wrth i fwy o fancio gael ei wneud ar-lein. Wrth i ragor o gymunedau orfod wynebu dyfodol heb gangen ar eu stryd fawr, a yw sefydlu undeb credyd yn gallu llenwi bwlch ar ol i'r banciau mawr traddodiadol adael?
"Licen i ddweud ein bod ni'n gallu yn syth, ond y gwirionedd yw bod rhaid cael rhyw fath o gefnogaeth gan y llywodraeth neu'r cyngor sir," meddai Rina Clarke o'r Drenewydd - un o aelodau cynharaf yr undeb credyd yn y dref a chyn-aelod o'r bwrdd.
Derbyn cynilion a rhoi benthyciadau yw prif wasanaethau undeb credyd, mae modd talu biliau trwyddyn nhw hefyd, ond dim ond rhai sy'n cynnig cyfrif cyfredol.
Yn wahanol i fanciau mae aelodau undeb credyd yn gorfod perthyn i'r un gymuned - byw yn yr un ardal neu weithio i'r un sefydliad, er enghraifft, ac maen nhw'n cadw eu harian yn y gymuned, does dim cyfranddalwyr sy'n disgwyl siâr o'r elw.
Os nad yw'r undeb credyd yn gallu camu yn syth i mewn i drefi penodol ar ol i'r banc lleol adael, mae'n ddigon rhwydd i unigolion ymuno ag undeb credyd sy'n bodoli eisoes.
'Gwahanol i'r banciau'
Mae'r undebau credyd yn barod i gydweithio gyda phobl mewn cymunedau newydd sy'n teimlo colled y banc.
"Mae'r undeb credyd i bawb. Maen nhw'n wahanol i'r banciau. Maen nhw ar gyfer y gymuned, ac wedi dechrau gan y gymuned." meddai Rina Clarke.
"Mae pob un yn gallu cael gwasanaethau yma - cynilo, hyd yn oed dim ond punt yr wythnos, benthyciadau sy'n rhad iawn, gwasanaethau arlein, a thalu arian yn syth o'r cyflog.
"Os ydy pobl mewn cymunedau sy'n colli banc eisiau sefydlu un mae digon o gefnogaeth ar gael. Gallwn ni weithio gyda'n gilydd i sefydlu rhywbeth yn y llefydd lle mae'r bancs yn tynnu mas."
Yn y Drenewydd mae cangen o Undeb Credyd Gogledd Cymru - mae canghennau eraill yng Nghaernarfon, Llandudno, Y Rhyl, Prestatyn, Dinbych a Wrecsam.
Tra bod y banciau mawr, gyda'u holl adnoddau nhw, yn cau canghennau sydd ddim yn gynaliadwy dyw Barry Roberts - rheolwr cyffredinol Undeb Credyd y Gogledd - ddim yn gweld sut y gallai'r mudiad cydweithredol gamu i'r bwlch heb godi ffioedd neu gael hyd i gyllid o ffynonellau eraill.
Ond mae'n awgrymu bod cyfleoedd posib i ddatblygu'r undebau credyd.
"Allai'r holl undebau credyd yng Nghymru gydweithio a gweithio gydag eraill i rannu hwb bancio elfennol? Mae'n bosib, ond fe fyddai'r costau cychwynnol yn uchel ac yn heriol.
"Efallai dylai'r llywodraeth, cynghorau, siambrau masnach a phartneriaid eraill ymuno a'r undebau credyd er mwyn archwilio'r cyfleoedd i gefnogi ffyrdd o gynnig gwasanaethau ariannol yn lleol i bobl."
Aelodaeth
Pe bai hynny'n digwydd fe fyddai'n adeiladu ar dwf diweddar yr undebau credyd ym Mhrydain.
Er eu bod yn tyfu, maen nhw'n dal i fod yn fach o ran presenoldeb o gymharu â gwledydd eraill - 3% o'r boblogaeth ym Mhrydain sy'n perthyn i undeb credyd.
Yng Nghanada mae 43% o'r boblogaeth yn aelodau, 48% yn yr Unol Daleithiau ac yn Iwerddon - 75%.