Cofio Gari Williams 70 mlynedd ers ei eni
- Cyhoeddwyd
Byddai Gari Williams wedi bod yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed ar 10 Mawrth eleni.
Roedd o'n un o gomedïwyr a diddanwyr mwyaf poblogaidd Cymru ac roedd ond yn 44 mlwydd oed pan fu farw'n sydyn ym mis Gorffennaf 1990.
Ysbrydoliaeth Llansannan
Ei enw genedigol oedd Emyr, a chafodd ei fagu ym Mryn Rhyd yr Arian, Llansannan. Yma, cafodd ysbrydoliaeth ar gyfer nifer o'r cymeriadau gwledig a bortreodd yn ddiweddarach, cyn iddo fo a'i deulu symud i Watling Street, Llanrwst.
Ei swydd gyntaf oedd gwerthu bwyd wedi'i rewi, er i'w dad geisio ei annog i fynd yn saer coed fel yntau. Gyda'r nos, byddai Gari'n cynnal cyngherddau fel rhan o ddeuawd canu lwyddiannus a phoblogaidd Emyr ac Elwyn, gyda'i frawd.
Newid enw
Roedd Gari yn honni mai swilder Elwyn wnaeth iddo fo orfod gwneud y gwaith cyflwyno rhwng caneuon i gyd ei hun, gan felly ymarfer ei ddawn fel comedïwr a'r gallu i berfformio o flaen cynulleidfa.
Yn dilyn un o'r perfformiadau yma - yn rhannol oherwydd cyngor gan un hanner o'r ddeuawd enwog Ryan a Ronnie, ac yn rhannol oherwydd ei gariad at y cymeriad Gari Tryfan - fe benderfynodd Emyr newid ei enw. A Gari oedd o fyth wedyn.
Yn 1976, cafodd y brif ran ym mhantomeim Cwmni Theatr Cymru, Madog, ac ers hynny daeth yn wyneb cyfarwydd iawn yn eu pantomeimiau blynyddol.
Daeth yn fwy adnabyddus gyda'i raglen 'Galw Mewn' ar Radio Cymru a 'Galw Gari' ar deledu yn nechrau'r wythdegau ac mewn llu o gyfresi eraill fel y sefyllfa gomedi 'Eric' gyda Stewart Jones a Myfanwy Talog.
Roedd hefyd yn chwarae'r mecanic Edgar Sutton yn yr opera sebon, 'Pobol y Cwm'.
'Doniol heb ddeud dim!'
Mae Hywel Gwynfryn yn cofio mynd ar daith gerdded gyda Gari Williams a Sulwyn Thomas o Gaerdydd i Ddyffryn Nantlle er mwyn codi arian i Eisteddfod yr Urdd.
"Dwi'n cofio ni'n cerddad i fyny'r Allt Walis yng Nghaerfyrddin," meddai. "Oedd o'n uffernol o hir, a ninna'n flinedig wedi cerdded yr holl ffordd o Gaerdydd yn barod.
"Dyma Gari - a'i wynab o'n goch fel tomato - yn troi aton ni ar ôl cyrraedd y top a deud: 'Yda chi'n gw'bod pam bod nhw'n galw hon yn Allt Walis, hogia? Achos mai dim ond tri Wali fel ni fysa'n ei cherdded hi!'"
Ychwanegodd: "Heb fod yn nawddoglyd, mi oedd o'n un o'r werin bobl. Roedd ganddo fo'r common touch, roedd o'n wych efo pobl. Fo oedd y stand-yp Cymraeg cynta' - oedd o'n wahanol. Roedd o'n actor, yn ganwr da, ac roedd ganddo fo wynab da - roedd o'n ddoniol heb ddeud dim!"
'Annwyl'
Bu'r actor John Ogwen yn perfformio ochr yn ochr â Gari ar sawl achlysur ac mae'n cofio dyn yn llawn "anwyldeb".
Wrth siarad gyda rhaglen Cofio ar Radio Cymru, meddai: "'Oedd o'n wrandawr da, Gari. 'Oedd o'n cofio enwa' pawb, dim ots lle oeddan ni'n mynd, os oeddan nhw 'mond 'di ffonio'i raglen o. Ac oedd o'n ymateb yn dda.
"Yn fyw, roedd o'n wirioneddol fendigedig. Dwi'n cofio rhannu 'stafell wely efo fo yn Paris a'r ddau ohona' ni'n prynu dwy jaced - oeddan ni'n meddwl eu bod nhw'n ledr - mewn rhyw dafarn a rhoi bron dim amdanyn nhw. Oedd y ddau ohona' ni wedi gwisgo nhw ac oedd pobl yn meddwl ein bod ni'n smart iawn, a wedyn dod adra a ffeindio mai plastig oeddan nhw!
"Ond doedd o ddim yn blastig o gwbl."
Cronfa Gari
Yn 1991, cafodd elusen Ymddiriedolaeth Cronfa Gari ei sefydlu gyda'r bwriad o gynnig cefnogaeth ariannol i bobl oedd eisiau dilyn gyrfa mewn comedi drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae wedi helpu lansio gyrfa sawl un, gan gynnwys Tudur Owen a ddywedodd fod y gronfa wedi ei helpu i lwyfannu ei gigs yn y blynyddoedd cynnar - rhywbeth mae'n "ddiolchgar iawn" amdano, meddai.
'Anogaeth'
Cafodd casgliad o straeon ac atgofion am Gari eu cyhoeddi wedi ei farwolaeth - Mab Hynaf Missus Wilias - gan ei hen gyfaill Myrddin ap Dafydd, a ddaeth i'w hadnabod yn ystod dyddiau yr Urdd yn Llanrwst.
"Un cwmwl bychan oedd yn yr awyr las uwch Eisteddfod Cwm Rhymni 1990 pan nes i dderbyn y Gadair," meddai'r prifardd. "Ers rhai blynyddoedd, roedd Gari wedi bod yn dweud a dweud wrthyf mai fo fyddai'r dyn mwyaf llawen ar y Maes pan fyddwn i'n codi yn y Pafiliwn.
"Roedd o'n fab i saer cadeiriau eisteddfodol yn Llanrwst ac roedd arwyddocâd y seremoni yn agos iawn at ei galon. Bu farw, yn anffodus, ychydig wythnosau cyn cael rhannu'r miri hwnnw.
"Ond roedd o'n rhan o'r anogaeth y tu ôl i fy llwyddiant i. Mi wn bod gan amryw o rai eraill ddyled fawr i'w anogaeth a'i frwdfrydedd.
"Diolch Gari, mae dy straeon a dy eiriau di'n dal i ganu yn y cof."
Yng nghystadleuaeth Ymryson y Beirdd Eisteddfod Cwm Rhymni y flwyddyn honno, rhoddodd Tîm Gweddill Cymru deyrnged i Gari Williams ar ffurf englyn:
A'r sioe ar ben, er cau'r llenni - di-daw
Yw y dorf. A glywi
O gwr y llwyfan, Gari,
Sŵn chwerthin dy werin di?
Bydd rhaglen Bore Cothiyn hel atgofion am Gari Williams rhwng 10:00 - 12:00 ddydd Iau, 10 Mawrth, ar BBC Radio Cymru.