Diflaniad Cameron Comey: 'Digwyddiad erchyll'
- Cyhoeddwyd
Blwyddyn ar ôl i fachgen 11 oed ddiflannu ar ôl bod yn chwarae ger afon Tywi yng Nghaerfyrddin, mae perchennog y safle wedi siarad am y digwyddiad am y tro cyntaf.
Dyw corff Cameron Comey, oedd yn chwarae gyda'i frawd iau pan ddiflannodd, ddim wedi ei ddarganfod.
Dywedodd Chris Thomas: "Mae'n rhywbeth allwch chi fyth ei anghofio. Bydd hynny gyda fi tan fy mod i'n marw.
"Roedd yn erchyll, yn ofnadwy, fe wnes i fynd yn oer. Roedd gen i ofn gweiddi arnyn nhw gan eu bod nhw mor agos at yr afon."
Gwella diogelwch
Dywedodd Mr Thomas bod y ddau wedi ceisio cuddio oddi wrtho pan ddaeth draw, ac erbyn iddo droi nôl roedd y ddau wedi mynd.
"Dyna rydw i wedi ei ofyn miloedd o weithiau, beth petawn i wedi gweiddi arnyn nhw, beth petawn ni wedi dweud 'dewch yma fechgyn'," meddai.
Ers diflaniad Cameron, mae pobl leol yn ymdrechu i wella diogelwch yn yr ardal, ac mae Partneriaeth Diogelwch Dŵr Sir Gaerfyrddin wedi ei ffurfio.
Mae Mr Thomas hefyd wedi cynnal trafodaethau gyda'r cyngor sir, yr heddlu a'r gwasanaeth tân gyda'r bwriad o sefydlu maes parcio ar gyfer y gwasanaethau brys.
'Mae yna berygl'
Ond ychwanegodd bod nifer o blant yn parhau i chwarae yn yr ardal, a'i fod am geisio gwneud y safle yn fwy diogel.
"Dwi ddim yn dweud fy mod am stopio plant rhag mynd yno," meddai. "Maen nhw am ddod yma i fwynhau eu hunain. Ond mae'n rhaid i ni wneud nhw'n ymwybodol o'r peryglon.
"Ond mae rhywbeth yn gallu digwydd. Lle mae yna afon mae yna berygl."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n ystyried nifer o opsiynau i wella diogelwch, mynediad i gerbydau brys ac i atal pobl sydd heb ganiatâd rhag mynd i mewn i'r safle."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2015