Gwasanaeth i gofio am Cameron Comey yng Nghaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Cafodd gwylnos ei chynnal yng Nghaerfyrddin nos Sul ar gyfer Cameron Comey.
Diflannodd y bachgen 11 oed ar ôl bod yn chwarae gyda'i frawd ger Afon Tywi ar 17 Chwefror.
Roedd y gwasanaeth nos Sul ar Bont King Morgan am 19:30 wedi ei drefnu gan eglwysi ac enwadau'r dref.
Cafodd gwylnos debyg ei chynnal bedair wythnos yn ôl yn dilyn ei ddiflaniad, gyda channoedd o bobl yn dangos eu cefnogaeth i deulu Cameron.
Yn ystod y wylnos cafodd rhuban glas ei roi ar y bont fel symbol o gefnogaeth y gymuned leol i'r teulu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2015