Cofio Blitz Abertawe: 'Uffern ar y ddaear'
- Cyhoeddwyd
19 Chwefror 1941 - noson gyntaf y bomio yn Abertawe.
Roedd hon yn ymgyrch a barodd tair noson - tair noson a wnaeth ddinistrio calon Abertawe. I'r rhai odd yn byw yn y ddinas rodd hi wir yn uffern ar ddaear.
Miriam Evans oedd un o rheiny. Rodd hi'n 22 adeg y bomio. Ar noson gyntaf y Blitz, rodd hi wedi bwrw draw i gapel Dinas Noddfa ar gyfer cyfarfod ieuenctid. Pan glywon nhw'r seiren fe aeth y criw i guddio o dan y Capel yn ystafell y diaconiaid.
"Aethon ni mewn i ystafell y diaconiaid, ac roedd dau fwrdd mawr iawn, cryf, yn yr ystafell, a rhai yn mynd oddi tano.
"Mae'r bomiau'n dechrau dod, ar ôl bod mewn 'na am ugain munud, chi'n clywed yr awyrennau'n dod o bell, achos o'n nhw'n swnio'n drwm, a chi'n meddwl, 'ma rhain yn llawn bomiau'.
"Ac wedyn fydden nhw'n dechrau syrthio. Y sgrech oedd yn ofnadwy. Sgrech y bom yn dod lawr. Ac wedyn 'thud'! Wel ble mae hi 'di mynd? Wel i ni'n iawn.
"Ni fan hyn, does dim byd wedi digwydd i ni hyd yma. Ond 'na'r amser gwaetha - clywed yr awyrennau'n dod a sylweddoli taw Almaenwyr o'n nhw ac wedyn clywed y sgrech ofnadwy 'ma, ac wedyn 'thud' - ma rhywun wedi'i chael hi."
Wedi'r bomio, doedd Miriam ddim am fynd nôl mewn i ganol y dre'.
"Roedd cymaint o storiâu'n dod 'nôl atom ni i ddweud beth oedd wedi digwydd a beth oedd y cyflwr. Sai'n credu roedd hawl 'da ni fynd am rai dyddiau o achos cyflwr y lle. Roedd e'n beryglus i fynd.
"Roedd bomiau wrth gwrs yn syrthio, ac o'n nhw ddim yn mynd off, roedd 'na fomiau heb ffrwydro dros y lle."
'Torcalonnus'
Pan fentrodd Miriam nôl mewn i ganol y dre', roedd yr olygfa'n un drist.
"Odd e'n dorcalonnus. Difrod ofnadwy ym mhobman. Roedd yr adeiladau mawr bron wedi mynd, neu dim ond rhannau ohonyn nhw ar ôl.
"A'r pibellau 'ma dros y lle i gyd, pibellau dŵr. Wrth gwrs, dod dim dŵr erbyn y diwedd, y noswaith olaf. O'n nhw'n pwmpio'r dŵr o'r môr neu o'r afon. 'Na fe, o'n nhw di gadel y lle i losgi."
'Targed'
Yn ystod y rhyfel roedd Abertawe'n fan strategol i Brydain. Ger y môr roedd y dociau, ac i fyny Cwm Tawe, diwydiannau oedd yn bwysig i'r ymgyrch filwrol.
Ond gyda'r statws hwnnw daeth y bygythiad o fod yn darged i'r gelyn, fel yr esbonia'r Hanesydd David Gwyn John.
"Odd Abertawe'n bendant yn darged achos roedd e'n dre ar lan môr, ac yn borthladd pwysig - mewnforio ac allforio drwy'r porthladd wrth gwrs," meddai.
"Roedd e hefyd yn ganolfan diwydiant. Diwydiannau trwm - o'n nhw'n cynhyrchu dur, o'n nhw'n cynhyrchu tin plât, a hefyd, falle'n fwy nag unrhyw beth arall, nid nepell o'r dre mi rodd Llandarsi.
"Yn Llandarsi roedd purfa olew - yn sicr yn darged i unrhyw un oedd am rwystro byddinoedd Prydain yr adeg hynny."
Felly fe gafodd y bomio effaith nid yn unig ar drigolion Abertawe, ond hefyd ar gynlluniau rhyfel Prydain.
"Roedd ymgyrch filwrol Prydain yn dibynnu ar ddiwydiant trwm, roedd e'n dibynnu ar ba ffordd oedd pethau'n cael eu cynhyrchu, ac roedd 'na dipyn o waith cynhyrchu'n digwydd, nid yn unig yn Abertawe ond mewn trefi eraill cafodd eu heffeithio gan y bomiau."
230 yn farw
Dros dair noson, fe ddaeth degau o awyrennau'r Natsïaid dros Abertawe a gollwng eu bomiau cyn troi nôl dros y bae. Roedd bomio tref neu ddinas am dair noson yn olynol yn unigryw y tu allan i Lundain.
Ar ddydd Sadwrn, 22 Chwefror, 1941 fe ddihunodd trigolion Abertawe mewn tref oedd wedi'i newid yn gyfan gwbwl.
Fe gollwyd 850 o adeiladau, gan gynnwys rhai o adeiladau mwyaf eiconig y dref - Siop Ben Evans, y Farchnad Fictorianaidd ac Eglwys Santes Fair. Roedd Oxford Street yn wastad, a'r craeniau ar y dociau ar ei hochrau.
I'r rhai oedd yn credu bod Cymru'n rhy bell i'r gorllewin i fod o ddiddordeb i'r Natsïaid, fe wnaeth tair noswaith yn ystod Chwefror 1941 brofi'n wahanol, yn enwedig gyda 230 o bobl yn farw.
Ailadeiladu
Wedi'r rhyfel roedd rhaid ail-adeiladu Abertawe, ac yn ôl Miriam Evans, doedd y dref byth yn un fath eto.
"Wrth gwrs doedd dim lot o siopau ar ôl. O'n i'n mynd i Dreforys i siopa, neu hyd yn oed i Lanelli - odd sawl un yn mynd i Lanelli i siopa. Roedd rhai eraill yn mynd i Ben-y-bont.
"Yn Abertawe roedd 'na siedau bach, a 'barrow boys' yn gwerthu o whilberi. Roedd rhai siopa wedi symud lan i Walter Road, ond doedd e ddim run peth."
Wrth gerdded o amgylch Abertawe heddiw, 75 mlynedd wedi Blitz, mae'n hawdd anghofio'r dinistr mae'r lle wedi'i weld, bod cynifer o adeiladau wedi'u dinistrio.
Ond ymysg yr adeiladau newydd, mae modd gweld olion y bomio, marciau'r shrapnel fel craith ar y ddinas - yn atgof o pan oedd Abertawe'n fflam.
Cafodd rhaglen arbennig, Abertawe'n Fflam, ei darlledu ar Radio Cymru nos Fercher, gyda Garry Owen yn cyflwyno eitem gafodd ei darlledu'n wreiddiol 'nôl yn 1991. Cliciwch yma i wrando arni.