Undeb Rygbi Cymru yn amddiffyn ei pholisi iaith

  • Cyhoeddwyd
logo URC

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi amddiffyn ei pholisi iaith wedi beirniadaeth bod ei siop ddim yn cynnig nwyddau gydag unrhyw Gymraeg arnynt.

Roedd Trystan Edwards o Fetws y Coed wedi mynd i siop yr undeb cyn y gêm yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn gyda'r bwriad i brynu nwyddau yno.

Dywedodd wrth raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru: "Odd fy ffrind isio sgarff ac odd gennai awydd ryw dop neu ryw grys. Ar ôl ychydig bach o gerdded o gwmpas sylweddoli does na ddim byd mewn gwirionedd efo'r Gymraeg arno fo...Gathon ni ein siomi yn fawr a deud y gwir."

Mae hefyd yn dweud nad oedd yna arwyddion yn ddwyieithog yn y siop: "Colli cyfle ma nhw mewn ffordd. Ma nhw mewn sefyllfa o ddylanwad ac mae'n amser iddyn nhw godi eu pennau a sylweddoli bod ganddyn nhw rôl i chwarae yn y genedl."

Ail frandio

Ond mewn datganiad a roddwyd yn Saesneg i raglen Taro'r Post, ond sydd wedi ei gyfieithu gan Cymru Fyw, mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud ei bod nhw'n ddiweddar wedi ail frandio Stadiwm Principality ac wedi diweddaru'r arwyddion i fod yn ddwyieithog gan gynnwys logo'r stadiwm.

Maen nhw hefyd yn dweud y byddan nhw nes ymlaen eleni yn ail frandio arwyddion yn siop yr Undeb:

"Mae gan Undeb Rygbi Cymru bolisi iaith Gymraeg sydd yn golygu bod yr iaith yn cael ei hystyried ymhob agwedd o'r busnes.

Cafodd y polisi ei llunio ar ôl ymgynghori gyda Comisiynydd y Gymraeg er mwyn cael cyngor ar y cynnwys. Rydyn ni hefyd wedi cytuno i barhau i siarad gyda Comisiynydd y Gymraeg i wneud yn siwr ein bod yn parhau i gefnogi'r Gymraeg."

Dywed y Comisiynydd ei bod wedi son wrth swyddogion yr undeb am y diffyg Cymraeg yn y siop ac y bydda nhw yn cyfarfod i drafod gyda nhw'n fuan.