Sefyllfa band eang cyflym yn 'warthus', yn ôl AS
- Cyhoeddwyd
Mae'r nod o gael band eang ffeibr cyflym i fwy o bobl yng Nghymru yn cael ei danseilio gan ddryswch, yn ôl Aelod Seneddol Ceidwadol.
Dywedodd Guto Bebb bod rhai o'i etholwyr yn cael negeseuon cymysg ac nad yw'n glir pwy sy'n gallu derbyn y gwasanaeth.
Llywodraeth Cymru a BT sy'n gweithredu'r cynllun ond mae'r ddau yn "gwrthddweud" ei gilydd, ychwanegodd aelod seneddol Aberconwy.
Mae'r cynllun yn un "uchelgeisiol", yn ôl llefarydd ar ran Cyflymu Cymru sy'n ei ddarparu.
Dywedodd Mr Bebb: "Rydym yn cael yr argraff nad yw BT yn gwybod os yw'n iawn ac yn sicr mae'n ymddangos bod sylwadau Llywodraeth Cymru yn gwrthddweud beth gafodd ei ddweud gan BT.
"Felly mae'n ymddangos nad yw'r un ohonyn nhw'n gwybod beth sy'n mynd ymlaen - mae'n sefyllfa warthus."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyflymu Cymru bod y prosiect yn un "uchelgeisiol" ac sy'n "gosod heriau", ond ei fod yn "datblygu'n dda" gyda mwy na 560,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn cael mynediad iddo.
Ychwanegodd: "Gyda phrosiect peirianyddol o'r maint yma, mae peirianwyr yn gallu dod ar draws nifer o broblemau sy'n gallu cael effaith ar ddyddiadau a chynlluniau i'w weithredu - fel cynllunio, mynediad i'r trydan a thywydd gwael."